Gweithrediadau Logisteg Lefel 2 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn yn addas i’r rhai sydd â phrofiad o’r sector logisteg a hoffai ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Mae ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio neu sydd am weithio fel gweithiwr logisteg yn y sector logisteg.
Gwybodaeth allweddol
Addysgir y cymwysterau trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr.
Unedau gorfodol
- Iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol
- Cynnal cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg
- Cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid
Unedau dewisol
- Paratoi’r fan ar gyfer gyrru
- Diogelu’r fan a’i llwytho
- Paratoi’r cerbyd cymalog ar gyfer gyrru
- Diogelu’r cerbyd cymalog a’i lwytho
- Cael gwybodaeth am gasglu/dosbarthu’r llwyth
- Storio nwyddau
- Rhyddhau cerbydau ar gyfer tasgau pob dydd
- Monitro symudiadau cerbydau
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf perfformio a gwybodaeth sy’n deillio o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i’r rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd logisteg.
Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgaredd ymarferol a wneir yn y gweithle er mwyn arddangos gwybodaeth a chymhwysedd.
Mae’r dulliau asesu yn cynnwys:
- Cwestiynau ac ateb
- Arsylwadau
- Tystebau
- Tystiolaeth seiliedig ar waith
- Astudiaethau achos
- Trafodaeth broffesiynol