Skip to main content

Lluniadu ar gyfer Ymwybyddiaeth Ofalgar

Rhan-amser, GCS Training
TBC
Tair awr

Trosolwg

Archwiliwch y grefft o ymwybyddiaeth ofalgar trwy ymarfer therapiwtig lluniadu. Mae’r cwrs byr hwn yn cynnig cyfle unigryw i feithrin ymwybyddiaeth ofalgar a chreadigrwydd wrth ymhel â’r rhythm o ddwdlan.

Dwdlwch gyda bwriad, gan ddefnyddio pennau llinell fain a fydd yn rhoi modd i chi feithrin cysylltiad dwfn rhwng y meddwl, y corff a’r grefft wrth archwilio eich creadigrwydd trwy ddefnyddio lliw. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen i ddysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn fod yn artistig gan y bydd tiwtor profiadol yn dangos yr holl dechnegau ac yn cefnogi’ch taith i fyd dwdlan. Bydd yr holl ddeunyddiau a’r offer sydd eu hangen ar gyfer y cwrs trochol hwn yn cael eu darparu.

Cofrestrwch heddiw, peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ymhel â chreadigrwydd gofalgar wrth gynhyrchu poster a fydd yn unigryw i chi. 

Bydd dysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs byr, tair awr hwn yn gallu meistroli technegau dwdlan syml. Ar y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn defnyddio theori lliw er mwyn creu panel artistig unigryw wrth ddysgu sut i dawelu’r meddwl trwy ganolbwyntio ar lenwi adrannau o amlinellau’r panel i greu eich gwaith celf eich hun. 

Off