Skip to main content

Lluosi - Datrys Dirgelwch Mathemateg (Diwrnod Adeiladu Tîm)

Rhan-amser
Sketty Hall
Un diwrnod

E-bost multiply@gcs.ac.uk i fwcio lle.

Trosolwg

Datrys Dirgelwch Mathemateg (Diwrnod Adeiladu Tîm)
Mae llofruddiaeth wedi digwydd. Yn ôl y sôn, cafodd y dioddefwr ei wenwyno cyn cael ei saethu. Mae'r llofrudd yn un o ddeg o ddihirod. Gan weithio mewn tîm, byddwch yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ynghyd a’ch sgiliau mathemateg i ddod o hyd i’r llofrudd. Rhaid cofnodi’r holl dystiolaeth (gan gynnwys cyfrifiadau) yn glir er mwyn i'w gyflwyno gan yr erlyniad.

Ydych chi’n gallu datrys dirgelwch y llofruddiaeth? Bwciwch eich lle ar y diwrnod adeiladu tîm hwyliog hwn

•    Niferoedd - isafswm o 10
•    Lleoliad – Plas Sgeti neu yn Fewnol
•    Amser – 10:00-15:30 (bydd cinio yn cael ei ddarparu)

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.
 

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.