Lluosi - Coginio Prydau Rhad
E-bost: multiply@gcs.ac.uk
Trosolwg
Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!
Cwrs byr yw Coginio Prydau Rhad a fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau call o ran paratoi prydau bwyd.
Bydd y testunau’n cynnwys:
- Nodi sut y gellir addasu ryseitiau er mwyn creu prydau rhad.
- Pwyso a mesur a yw cynigion arbennig yn ffyrdd o arbed arian mewn gwirionedd.
- Dewis dulliau coginio cywir i greu prydau rhad
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau:
• 19+ oed
• Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.
TBydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 3 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.
Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.
Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.