Cynnal a Chadw e-Feiciau Uwch
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer technegwyr beiciau a delwyr beiciau.
Bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i baratoi, gwasanaethu ac atgyweirio amrywiaeth eang o feiciau trydanol. Mae’n cynnwys yr holl dechnoleg ddiweddaraf ac mae’n rhoi modd i chi weithio’n hyderus mewn amgylchedd gweithdy cymhleth.
Ar y cwrs Cynnal a Chadw e-Feiciau Uwch, byddwch chi’n dysgu:
- Theori trydanol sylfaenol, deall diagramau gwifro a defnyddio amlfesurydd
- Defnyddio haearn soldro a sut orau i osod cysylltyddion trydanol
- Tynnu a gosod moduron a chydrannau trydanol
- Gweithdrefnau diagnostig a chynnal a chadw ar gyfer systemau ‘deallus’ ac ‘anneallus’
- Arferion gwaith diogel wrth ddefnyddio batris a chydrannau trydanol
- Deddfwriaeth ynghylch defnyddio a chynnal a chadw e-feiciau
- Trawsyrru – atgyweirio ac adnewyddu cadwyn
- Addasu penset
- Olwynion – atgyweirio tyllau a theiars
- Atgyweirio brys – delio â’r hyn sy’n gallu mynd o chwith wrth fynd am reid
Gwybodaeth allweddol
Does dim cymnwysterau ffurfiol ond dylech chi fod yn gweithio yn y diwydiant.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cwrs cynnal a chadw e-feiciau sylfaenol i’r rhai nad ydynt yn gweithio yn y diwydiant.
Addysgir y cwrs dros dri diwrnod.
Cwrs anachrededig yw hwn. Cewch Dystysgrif Presenoldeb gan Goleg Gŵyr Abertawe.
Rydyn ni hefyd yn rhedeg cymwysterau Cytech Un a Cytech Dau.
Darperir beic ac offer ar gyfer y cwrs.