Chwistrellu Lliw Haul (cwrs undydd)
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i ddechreuwyr neu weithwyr proffesiynol diwydiant sydd am ychwanegu lliw haul at eu gwasanaethau presennol. Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â thriniaethau lliw haul, cynnal iechyd a diogelwch a darparu cyngor ôl-ofal i gleientiaid.
Mae modiwlau’r cwrs yn cynnwys:
• Iechyd, diogelwch a hylendid
• Paratoi man cleientiaid a man gwaith
• Ymgynghori â chleientiaid a rhoi profion clytiau iddynt
• Gwrthrybuddion a gwrthweithredoedd
• Techneg chwistrellu lliw haul fydd yn rhoi modd i chi berfformio triniaeth gyflawn
• Ffurfiant y croen
• Cyngor ôl-ofal
Diweddarwyd Tachwedd 2018
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i bob myfyriwr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Ffoniwch ni ar 01792 284049 i gael dyddiadau ac amserau. Ar y noson cyn y cwrs, rhaid i fyfyrwyr ddiblisgo eu croen. Ar ddiwrnod y cwrs ni ddylech wisgo diaroglydd, colur na lleithydd. Rhaid i fyfyrwyr wisgo dillad tywyll llac a fflip-fflops.