Sut i Bobi - Pwdinau
Rhan-amser
Tycoch
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i waith yn y diwydiant arlwyo/bwcws. Yn ystod y cwrs byr hwn, byddwch yn dysgu sut i wneud amrywiaeth o bwdinau, gan ddefnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol. Byddwch yn dysgu sut i baratoi amrywiaeth o bwdinau poeth ac oer clasurol a chyfoes, gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Gallai’r eitemau gynnwys pwdinau wedi’u stemio, rholiau cig, teisennau caws a phwdinau ffrwythau a mousse.
Ychwanegwyd Mehefin 2021
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod gennych ddiddordeb mawr mewn gweithio yn y diwydiant arlwyo/becws. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau.
Nid oes unrhyw asesiadau ffurfiol. Cewch eich arsylwi trwy gydol y sesiynau a chewch adborth llafar ar ddiwedd pob gwers. Darperir ryseitiau, ac fe’ch anogir i’w cadw ar ffurf portffolio bach.
Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn. Efallai y byddwch yn dewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.
Bydd gofyn i chi wisgo cot wen, het ac esgidiau blaen dur (i’w darparu gennych chi). Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a’i orchuddio â rhwyd wallt. Ni chaniateir gemwaith na thyllu gweladwy. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Caniateir ychydig iawn o golur. Bydd yr holl gynhwysion yn cael eu darparu. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud cyfraniad tuag at gynhwysion, tua £7.50 yr wythnos.