Skip to main content

Lluosi - Rhifedd ar gyfer Gofal Plant (Helpu Plant gyda Mathemateg)

Rhan-amser
Lefel 1
Kingsway Centre
Pump wythnos

E-bost: multiply@gcs.ac.uk  

Trosolwg

 

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Rhifedd ar gyfer Gofal Plant (Helpu Plant gyda Mathemateg) a fydd yn datblygu eich gwybodaeth a sgiliau ynghylch hybu gwelliant mathemateg plant.

Bydd y testunau’n cynnwys:
•    Datblygu sgiliau rhifedd plant
•    Creu gemau i ddatblygu sgiliau rhifedd plant

 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 5 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.