Skip to main content

Bŵt-camp Haf Lluosi - Ffracsiynau

Rhan-amser
Sketty Hall
Un awr a hanner

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

Mae Bŵt-camp Lluosi yma i roi hwb i’ch sgiliau rhifedd cyn i chi ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.  Mae’r sesiynau hyn yn berffaith ar gyfer dysgwyr sydd am ddechrau cwrs Mynediad i AU neu brentisiaeth. Hefyd, maent yn addas ar gyfer pobl sy’n dymuno gwella sgiliau rhifedd defnyddiol i’w defnyddio o ddydd i ddydd.

Hwyl gyda ffracsiynau: Deall ffracsiynau a chyfrifo ffracsiynau o symiau.

Sesiwn hamddenol i ennill dealltwriaeth o ffracsiynau a sut y gallwn ni eu defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn o ddydd i ddydd. Trwy ddysgu tipiau defnyddiol ac amrywiaeth o ddulliau gwahanol, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i fagu hyder mewn elfen allweddol o sgil rhifedd hanfodol.

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Nid yw’r cwrs hwn wedi’i achredu, felly does dim angen cynnal unrhyw asesiadau.

Gallwch hefyd gymryd rhan mewn sesiynau bŵt-camp eraill, cwrs Lluosi hirach neu gwrs Lefel 2 (cyfwerth â TGAU) mewn Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif.

Fractions 
Cod y cwrs: ZA1487 PTB
04/06/2024
Plas Sgeti
1 day
Tue
11am - 12.30pm
£0
Lefel 2
Fractions
Cod y cwrs: ZA1487 PTB3
04/06/2024
Plas Sgeti
1 day
Tue
9.30am-11.00am
£0
Lefel 1
Fractions 
Cod y cwrs: ZA1487 PTB2
02/07/2024
Plas Sgeti
1 day
Tue
11am - 12.30pm
£0
Lefel 2
Fractions
Cod y cwrs: ZA1487 PTB4
02/07/2024
Plas Sgeti
1 day
Thurs
9.30am-11.00am
£0
Lefel 1