Skip to main content

Blas ar Yr Eidal

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Bob wythnos, meistrolwch y grefft o baratoi a choginio dwy rysáit Eidalaidd glasurol – yn union fel roedd mama yn arfer eu gwneud! 

Cynllun addysgu: 

  • Wythnos 1- Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan eich tiwtor 
  • Wythnos 2- Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 3- Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 4- Sesiwn ymarferol
  • Wythnos 5- Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth o goginio.

Addysgir yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni chwblheir unrhyw asesiadau ffurfiol.

Dosbarthiadau coginio pellach (anachrededig).

Cewch restr lawn o gynnwys y cwrs ynghyd â ryseitiau fel rhan o’r wers gyntaf, ac yn ystod y wers honno byddwch hefyd yn cael rhaglen sefydlu’r coleg, briff iechyd a diogelwch ac arddangosiad ymarferol gan diwtor y cwrs.

Gwybodaeth hanfodol - bydd gofyn i chi ddarparu’r canlynol: 

  • Yr holl gynhwysion (tua £10 yr wythnos)
  • Dillad gwarchod (cot neu ffedog wen a het neu rwyd wallt).

Hylendid a diogelwch:

  • Ni chaniateir gemwaith yn y gegin
  • Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a’i roi mewn rhwyd wallt
  • Ni chaniateir ewinedd gel na farnais ewinedd. 
  • Rhaid gwisgo esgidiau gwastad, caeedig, di-lithr.
Italian Cuisine
Cod y cwrs: ZA159 ETC
18/09/2024
Tycoch
10 weeks
Wed
5.30 - 8.30pm
£175