Amledd Radio (Tystysgrif)
Trosolwg
Mae VTCT (ITEC) Tystysgrif Lefel 4 mewn Amledd Radio yn gymhwyster therapi uwch ar gyfer ymarferwyr cymwysedig Lefel 3 18+ oed sydd am ychwanegu'r therapi hwn i'w repertoire o driniaethau.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
- Egwyddorion ac ymarfer therapïau esthetig anfeddygol
- Ymgynghoriad uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
- Gofal croen uwch ar gyfer therapïau esthetig anfeddygol
- Darparu triniaethau amledd radio.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod gan ddysgwyr gymhwyster Lefel 3 traddodiadol mewn Therapi Harddwch sy'n cynnwys unedau trydanol i'r wyneb a'r corff ac anatomeg a ffisioleg.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu am 5 awr, un diwrnod yr wythnos dros 15 wythnos lle byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol a'r wybodaeth greiddiol gysylltiedig sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn.
Cewch eich asesu mewn nifer o ffyrdd a fydd yn cynnwys aseiniadau, astudiaethau achos clinigol, arholiadau theori allanol ac arholiadau ymarferol allanol.
Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant estheteg anfeddygol uwch mewn technegau nodwyddo croen neu gall dysgwyr ddewis datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach drwy gwblhau'r cymwysterau canlynol:
- Tystysgrif L3 mewn Micro Dermabrasion
- Tystysgrif L4 mewn Pilio Croen
- Tystysgrif L4 mewn Nodwyddo Croen
- Tystysgrif L4 mewn Microbigmentu.