Warysau a Storio Lefel 3 – Tystysgrif FfCCh
Trosolwg
Mae’r cymhwyster Lefel 3 yn gyfle i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau warysau a storio yn y sector logisteg ddatblygu a dangos eu cymhwysedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth.
Mae’n fwyaf addas i unigolion a hoffai ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i oruchwylio mewn amgylchedd warws, a byddai’n fwy priodol i uwch aelod o dîm, arweinydd tîm neu’r rhai mewn rôl oruchwylio.
Gwybodaeth allweddol
Addysgir y cymhwyster trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr.
Unedau gorfodol
- Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
- Goruchwylio’r broses o dderbyn, storio a dosbarthu nwyddau
- Darparu arweinyddiaeth ar gyfer eich tîm
- Cymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch yn eich tîm
Unedau dewisol
- Symud a/neu drin nwyddau
- Gwirio lefelau stoc a’u cofnodi
- Recriwtio, dethol a chadw cydweithwyr
- Adeiladu a rheoli timau
- Trefnu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
- Ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
- Rhyddhau cerbydau ar gyfer tasgau dyddiol
- Monitro symudiadau cerbydau
Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd.
Mae dulliau asesu yn cynnwys:
- Cwestiynau ac atebion
- Arsylwadau
- Tystebau
- Tystiolaeth seiliedig ar waith
- Astudiaethau achos
- Trafodaeth broffesiynol