Trydanol
Mae cyrsiau Gosodiadau Trydanol a Pheirianneg (Drydanol) ar gael ar amryw o lefelau, gan roi cyfle i fyfyrwyr gofrestru ar y cwrs sy’n briodol i’r cymwysterau sydd ganddynt eisoes.
Bydd y rhai sy’n dechrau ar Lefel 1 neu 2 yn cael cyfle i symud ymlaen i’r lefel nesaf, a’r dewis posibl o ddilyn prentisiaeth, cwrs addysg uwch neu gael swydd.
Mae’r cyrsiau’n cael eu haddysgu drwy weithdai safonol y diwydiant, gan roi modd i’r myfyrwyr feithrin y sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa yn y sector trydanol.
Mae cyrsiau rhan-amser hefyd ar gael o Lefel 2 hyd at Lefel 5.
Cyrsiau Trydanol
Arolygu a Phrofi Lefel 3 – Cwrs Cyfunol
Lefel 3 EAL
Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan - Cymhwyster
Lefel 3 EAL
HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig
Lefel 4 UoWTSD
Peirianneg Drydanol ac Electronig HND
Lefel 5 HND
Profi Dyfeisiau Cludadwy Lefel 3 – Cymhwyster
Lefel 3 C&G