Skip to main content
Pobl yn gwenu

Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2024 - Diweddariad

Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig, dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 5 Awst.

Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:

Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC, OCR, UAL, NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 15 Awst 2024 (o 9.15am)

TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 22 Awst 2024 (o 9.15am)

Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.

I gasglu dy ganlyniadau, rhaid i ti ddod â Cherdyn Adnabod (ID) sy'n cynnwys dy enw.

Os na alli di gasglu dy ganlyniadau’n bersonol, bydd angen i ti roi awdurdodiad ysgrifenedig (nid neges destun nac e-bost) i ganiatáu i rywun arall eu casglu ar dy ran. Dylai’r person hwn ddod â cherdyn adnabod hefyd. Ni allwn roi canlyniadau dros y ffôn nac ar e-bost o dan unrhyw amgylchiadau.

Bydd unrhyw ddatganiadau o ganlyniadau sydd heb eu casglu yn cael eu postio i dy gyfeiriad cartref ar brynhawn y diwrnod canlyniadau perthnasol.

Mae rhagor o ganllawiau i’w gweld ar y porth myfyrwyr.

Os nad oes diwrnod canlyniadau penodedig ar gyfer dy gymhwyster, bydd dy ganlyniadau’n ymddangos ar dy e-CDU pan fyddan nhw ar gael a byddi di’n derbyn dy dystysgrif gyda’r post.

Pwysig: rydyn ni’n postio pob tystysgrif cymhwyster i dy gyfeiriad cartref.  

Wyt ti wedi newid dy gyfeiriad yn ddiweddar?

Os felly, e-bostia Enrolment@gcs.ac.uk cyn 13 Awst 2024 er mwyn diweddaru dy gofnodion.