Skip to main content

Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3 – Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Cilex
Sketty Hall
21 mis

Trosolwg

Mae’r brentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol yn datblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd paragyfreithiol/cyfreithiol, rôl sy’n chwarae swyddogaeth hanfodol yn y sector cyfreithiol.

Mae’r brentisiaeth hon yn rhaglen hynod ymarferol, lle mae sgiliau proffesiynol craidd fel ymwybyddiaeth fasnachol, moeseg broffesiynol a chyfathrebu yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant. Mae’r brentisiaeth yn rhoi gwybodaeth gyfreithiol hanfodol gan roi modd i ddarpar gynorthwywyr paragyfreithiol a chyfeithiol ddarparu cymorth ac arweiniad i dimau sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd ymarfer cyfreithiol. 

Mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer aelodau tîm newydd a phresennol yn y sector cyfreithiol a bydd hi ar gael o fis Medi 2024. 

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid eich bod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac yn gweithio yng Nghymru. Yn ogystal, rhaid i’r dysgwyr gael eu cefnogi’n llawn gan y cyflogwr.

Os nad yw dysgwyr wedi cyflawni graddau A-C ar lefel TGAU (neu’r cyfwerth), rhaid iddynt hefyd gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Addysgir y brentisiaeth wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Bydd dysgwyr yn astudio pum modiwl (yn ogystal ag un e-fodiwl) dros gyfnod o 21 mis, sef un diwrnod llawn yr wythnos ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol o fewn cyflogaeth. 

Mae’r modiwlau astudio’n cynnwys:

  • Systemau Cyfreithiol
  • Cyfraith Camwedd
  • Cyfraith Contractau
  • Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat
  • Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol
  • Moeseg a Chyfrifoldeb Proffesiynol 1 (e-fodiwl)

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth, cewch amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa, gyda rolau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Paragyfreithiwr
  • Cynorthwyydd Cyfreithiol
  • Swyddog Gweinyddol Cyfreithiol 
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol
  • Enillydd Ffioedd/Triniwr Achosion Iau

Gall dysgwyr barhau i weithio fel paragyfreithiwr, neu symud ymlaen i brentisiaeth uwch Lefel 5 mewn Paragyfreithiwr Uwch.