Skip to main content

TGAU Saesneg Iaith

Rhan-amser
Lefel 2
WJEC
Tycoch, Online
30 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae manylebau TGAU CBAC ar gyfer iaith Saesneg ar waith i sicrhau eich bod yn gallu ysgrifennu’n effeithiol a darllen yn rhugl. Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylech allu dangos rheolaeth ar Saesneg safonol, gan gynnwys defnyddio iaith uchelgeisiol, dadansoddi a gwerthuso testunau ac ysgrifennu brawddegau sy’n gywir yn ramadegol.

UNED 1: Llafaredd (20%)

Byddwch yn rhoi cyflwyniad unigol, wedi’i ymchwilio, yn seiliedig ar themâu gosod CBAC. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ar ysgogiadau ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i gychwyn y drafodaeth. Sylwch fod rhaid i ni recordio’r holl asesiadau llafar.

UNED 2: Darllen ac Ysgrifennu: Disgrifio, Naratif ac Esbonio (40%)

Byddwch yn sefyll papur arholiad dwy awr ym mis Mehefin. Bydd y papur arholiad yn profi eich sgiliau darllen ac ysgrifennu.

UNED 3:  Darllen ac Ysgrifennu: Dadlau, Dwyn Perswâd a Chyfarwyddiadau (40%)

Byddwch yn sefyll ail bapur arholiad dwy awr ym mis Mehefin. Bydd y papur arholiad yn profi eich sgiliau darllen ac ysgrifennu.

Gwybodaeth allweddol

Os nad yw Saesneg yn famiaith i chi, rhaid ichi fod wedi cwblhau tystysgrif ESOL Sgiliau ar gyfer Bywyd Lefel 2 (nid lefel mynediad) neu gymhwyster cyfwerth. Os nad yw Saesneg yn famiaith i chi, ac os nad oes gennych chi’r cymwysterau i ymgymryd â’r cwrs TGAU, ffoniwch safle Llwyn y Bryn ar 01792 284021 i drefnu cyfweliad ESOL.

Gallwch ddewis astudio wyneb yn wyneb bob nos Iau neu ar-lein bob brynhawn Mercher / nos Fawrth. Os ydych yn dewis dilyn y cwrs ar-lein, rhaid bod gennych fynediad i gyfrifiadur, gliniadur neu dabbled. Nid yw’n bosib dilyn y cwrs trwy ddefnyddio ffôn clyfar.

Rhaid i chi hefyd gael cysylltiad ryngrwyd sefydlog a mynediad i argraffydd. Os ydych yn dewis astudio’r cwrs ar-lein, bydd angen i ni gysylltu â chi cyn y sesiwn gyntaf er mwyn esbonio i chi sut y gallwch gael mynediad i’r dosbarth. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi tic yn y bocs sy’n gofyn i ni gysylltu â chi drwy e-bost a negeseuon testun, a darparwch fanylion cyswllt cywir.

Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn yn fuan. Os ydych chi’n gwneud unrhyw ymholiadau ynghylch a yw’r cwrs wedi dechrau, neu a yw’r cwrs yn llawn, ar ôl i’r cwrs gychwyn, bydd gofyn i chi fynd i brif dderbynfa Tycoch i gofrestru / ychwanegu eich enw i’r rhestr aros. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â judith.stevens@gcs.ac.uk