Skip to main content

Canlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol L3 Coleg Gŵyr Abertawe 2023

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu set gadarn o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol Lefel 3 eto yn 2023. 

Y gyfradd basio gyffredinol eleni ar gyfer Safon Uwch yw 98%, gyda 1391 o gofrestriadau arholiadau ar wahân. Roedd 35% o’r graddau hyn yn A*-A, 60% yn A*-B ac 82% yn A*-C. 

Cyfradd pasio gyffredinol Safon UG yw 95%, gyda 74% o’r graddau hynny yn raddau A-C a 53% yn raddau A-B. Roedd 2119 o gofrestriadau arholiadau ar wahân ar gyfer Safon UG. 

Tagiau

Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2023 - Diweddariad

Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 7 Awst. Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:

Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC,OCR,UAL,NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 17 Awst 2023 (o 9.15am)

TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 24 Awst 2023 (o 9.15am)

Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.

Tagiau

Neges gan y Pennaeth Mark Jones ynghylch: Canlyniadau BTEC

Mae llawer o ddryswch ar hyn o bryd mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau, ac yn fwyaf diweddar canlyniadau BTEC.

Felly hoffwn fachu ar y cyfle hwn i dawelu meddwl ein holl ddarpar fyfyrwyr bod eu lle yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ddiogel.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Medi, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw’ch apwyntiad cofrestru, beth bynnag fo’ch graddau. Mae gennym dîm o staff ymroddedig wrth gefn i’ch helpu a’ch cynghori ar Raddau a Aseswyd gan y Ganolfan, canlyniadau TGAU a graddau a ragwelir ac ati.

Tagiau