Skip to main content

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygiad (Ychwanegol)

Part-Time
Tycoch
2 flynedd
Telephone: 01792 284000 (Tycoch)

Overview

Nod y cwrs yw datblygu dealltwriaeth fanwl o anghenion datblygu a dysgu plant a phobl ifanc. Bydd yn eich annog i werthuso’n feirniadol effaith dysgu, datblygu a’r cwricwlwm yn ymarferol ac archwilio hon o fewn eich cyd-destun addysgol eich hun. Bydd yn eich annog i gynhyrchu dadleuon rhesymegol a dod i gasgliadau annibynnol gan ddefnyddio dadansoddiad damcaniaethol, gweithgarwch ymarferol ac ymchwil bersonol ar lefel gradd. Bydd yn rhoi ymwybyddiaeth academaidd a dealltwriaeth o blant a phobl ifanc o amrywiaeth o bersbectifau gan gynnwys athroniaethau a chredoau. Bydd yn datblygu’ch dealltwriaeth o sgiliau a phriodoleddau gan gynnwys arweinyddiaeth/rheolaeth, cyfathrebu a datrys problemau. Caiff ei addysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, dysgu seiliedig ar waith, ymweliadau allanol, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol. Mae hwn yn gwrs rhan-amser sy’n rhedeg dros ddwy flynedd ac felly mae’n ddelfrydol i’r rhai mewn cyflogaeth neu sy’n methu ag ymrwymo i astudio amser llawn. Byddwch yn ymgymryd â chwe awr o astudio yr wythnos dros ddwy noson 6.00pm-9.00pm.

Key information

Yn unol â gofynion mynediad Prifysgol De Cymru: Gradd Sylfaen Lefel 5 (neu’r cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd myfyrwyr yn gyflogedig neu’n gweithio’n wirfoddol mewn lleoliad perthnasol am o leiaf 12 awr yr wythnos.

TAR/AHO MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) Prifysgol De Cymru MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) Prifysgol De Cymru

Y ffioedd cyfredol yw £2,040 y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Efallai y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y. • Teithio i’r Coleg neu’r lleoliad ac yn ôl • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn cof) • Argraffu a rhwymo • Gynau ar gyfer seremonïau graddio • £40 am wiriad DBS ar gyfer unrhyw leoliad sydd ei angen fel rhan o’r cwrs Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS dilys