Skip to main content
Funded by UK GovernmentSkills for Life - Multiply

Lluosi

Dewch i Luosi eich Sgiliau ar gyfer Bywyd Pob Dydd! 

Mae Prosiect Lluosi gan Goleg Gŵyr Abertawe yma i dy helpu di fagu hyder mewn sgiliau rhifedd; y sgiliau hynny sy’n angenrheidiol mewn bywyd bob dydd. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau am ddim, dim ots ble’r wyt ti ar dy daith! 

Wyt ti newydd ddechrau ar dy liwt dy hun ac yn teimlo ychydig yn bryderus am sut i reoli arian? Gall ein cyrsiau Lluosi am ddim dy helpu i reoli dy arian, teimlo’n fwy hyderus a dysgu triciau da i ti arbed arian. 

Efallai dy fod ymhellach ymlaen ar dy daith bywyd ac yn chwilio am dy gartref cyntaf? Gall ein cyrsiau Lluosi am ddim dy helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at brynu tŷ a gweithio allan faint o rent y galli di ei fforddio. Bydd y cyrsiau hefyd yn dangos ffyrdd i ti fenthyg arian a sut i reoli dyled yn effeithiol. 

A yw dy deulu di’n ehangu? Oes angen i ti fod yn fwy gofalus gyda dy arian? Gall ein cyrsiau Lluosi am ddim dy ddysgu di sut i goginio prydau rhad a sut i gynilo arain er mwyn fforddio gwyliau. 

Wyt ti’n pwyso a mesur dy opsiynau ar gyfer ymddeoliad neu’n gofalu am dy wyrion? Gall ein cyrsiau Lluosi am ddim dy helpu i gynllunio ymlaen llaw heb unrhyw straen a dy helpu i ghryfhau dy sgiliau rhifedd i helpu’r rhai bach gyda’u gwaith cartref. 

Ble bynnag rwyt ti ar dy daith bywyd, rydyn ni yma bob cam o’r ffordd. Mae ein dull cam-wrth-gam yn gwneud trin rhifau yn hwyl, a byddi di’n magu hyder ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig - gwych! 

Felly, os wyt ti’n 19+, yn byw ac yn gweithio yn Abertawe, nid fydd angen i ti dalu i gymryd rhan yn rhaglen Lluosi.

Wyt ti’n poeni am y cam cyntaf? Methu cymryd y cam hwnnw? Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun! 

Hyd yn oed os wyt ti wedi cael profiad gwael yn y gorffennol o ran rhifedd a mathemateg, mae ein cyrsiau wedi’u creu gyda phobl fel ti o fewn meddwl. Mae’r cyrsiau’n hwyl, yn ylaciedig a byddan nhw’n dy helpu i ennill y sgiliau ymarferol y bydd eu hangen arnat ti i fynd i’r afael â heriau bob dydd. 

Felly, cyfra i 3, cymera anadl ddofn…. A chymera’r cam cyntaf gyda ni, byddi di’n falch o dy hunan! 

Mae gorbryder mathemateg yn deimlad cyffredin sy'n gallu gwneud i ti deimlo'n llethol, yn rhwystredig a phetrusgar. Y newyddion da bod ein cyrsiau wedi’u creu gyda phobl fel ti o fewn meddwl, maen nhw’n hwyl, yn gyfeillgar, yn hamddenol ac yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnat ti. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn multiply@gcs.ac.uk 

Ariennir Prosiect Lluosi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU 

Levelling Up
Levelling Up