Skip to main content

Lluosi - Rhifedd ar gyfer Gofal Iechyd

Rhan-amser
Lefel 2
Kingsway Centre
Pump wythnos

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Arolwg

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Rhifedd ar gyfer Gofal Iechyd a fydd yn datblygu eich sgiliau Mathemateg, fel y gallwch symud ymlaen i yrfa ym maes iechyd.

Bydd y testunau’n cynnwys:

  • Mathemateg yng nghyd-destun proffesiwn iechyd
  • Mesuriadau
  • Ffracsiynau
  • Amcangyfrifon
  • Cymarebau
  • Defnyddio cyfrifiannell i ddatrys problemau yn effeithiol.

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 5 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.