Vanilla Pod
Croeso i Vanilla Pod - bwyty hyfforddi bistro ar gampws Tycoch.
Mae bwyty Vanilla Pod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arlwyo a lletygarwch ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr mewn cegin a bwyty proffesiynol.
Mae ein myfyrwyr dawnus ac angerddol yn ymrwymedig i gynnig profiad bwyta ardderchog i chi ynghyd ag awyrgylch croesawgar a bwyd blasus.
Mae’r fwydlen yn newid yn barhaus yn unol â’r tymhorau a’r tueddiadau a’r arloesiadau diweddaraf. Mae’r Vanilla Pod yn lle perffaith i fwyta ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gogyddion a gweithwyr lletygarwch proffesiynol.
Cadw Bwrdd Nawr
Cinio arddull bistro
Dydd Mawrth
12-2pm
(archebion olaf 1.15pm)
Cinio ciniawa crand
gyda’r hwyr
Nos Iau
6-9pm
(archebion olaf 6.30pm)
Cinio ciniawa crand
Dydd Gwener
12-2pm
(archebion olaf 1.15pm)
I gadw bwrdd yn y Vanilla Pod, ffoniwch:
≡ Gweld enghraifft o’n bwydlen ciniawa crand gyda’r hwyr*
Mae'r bwyty ar agor yn ystod y tymor yn unig.
*Mae’r fwydlen hon yn enghraifft o’r pethau rydym yn eu cynnig a gallai newid.
⭐ Nosweithiau thematig ⭐
O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cynnal nosweithiau thematig yn y Vanilla Pod.
Mae’r digwyddiadau arbennig hyn wedi’u cynllunio i gynnig profiad bwyta unigryw sy’n mynd y tu hwnt i’n ‘bwydlen safonol’. O ‘Flas y Môr’ i Flas ar yr Eidal a phob peth arall, mae ein nosweithiau thematig wedi cael eu paratoi’n ofalus i arddangos blasau a dulliau coginio diwylliannau neu ranbarthau penodol.
Dydd Iau 8 Chwefror
6-9pm
Dydd Iau 29 Chwefror
6-9pm
Dydd Iau 25 Mawrth
6-9pm