Skip to main content

Lluosi - Sgiliau Taenlenni ar gyfer Cyllidebu

Rhan-amser
Lefel 1
Kingsway Centre
Pedwar wythnos

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Sgiliau Taenlenni ar gyfer Cyllidebu a fydd yn datblygu eich sgiliau fel y gallwch ddefnyddio taenlenni, fformiwlâu a fformatau Microsoft Excel syml i drefnu ac arddangos data.

Bydd y testunau’n cynnwys:

  • Creu taenlenni
  • Arddangos a thrin data
  • Defnyddio graffiau i roi ffurf weledol i ddata
  • Creu taenlenni i reoli cyllidebau personol

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

I astudio’r rhaglen hon, bydd angen i ddysgwyr wybod sut i ddefnyddio cyfrifiaduron - sut i’w troi ymlaen a’u diffodd, sut i ddefnyddio llygoden a bysellfwrdd, agor a chau rhaglenni ac ati.

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 4 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.

Spreadsheet Skills for Budgeting
Cod y cwrs: VA272 PKA5
17/06/2024
Ffordd y Brenin
3 weeks
Mon
2pm - 5pm
£0
Lefel 1