Skip to main content

Lluosi - Deall Incwm ac Arbedion

Rhan-amser
Lefel 2
Kingsway Centre
Tri wythnos

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Arolwg

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Deall Incwm ac Arbedion a fydd yn eich helpu i adnabod didyniadau misol o’ch incwm a’u pwysigrwydd. Byddwch hefyd yn darganfod sut y maent yn cael eu cyfrifo.

Bydd y testunnau’n cynnwys: 

  • Yswiriant Gwladol, Treth a didyniadau eraill o'ch cyflog
  • Nodi cyflog posib gwahanol swyddi
  • Cydnabod pwysigrwydd cynilo arian yn rheolaidd

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 3 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.  

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.