Skip to main content

Lluosi - Creu Cyllideb Bersonol

Rhan-amser
Lefel 1
Kingsway Centre
Dau wythnos

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!

Cwrs byr yw Creu Cyllideb Bersonol a fydd yn rhoi cyflwyniad i chi i greu cyllideb bersonol, gan gynnig cymorth ar reoli eich incwm a gwariant personol.

Bydd y testunnau’n cynnwys:

  • Gwariant cartref hanfodol, gan gynnwys cyfleustodau 
  • Creu cyllideb bersonol
  • Cyfrifo incwm gwario

Ariennir Prosiect Lluosi yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe

Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau 3 awr dros gyfnod o 2 wythnos yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.

Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.