Skip to main content

Vanilla Pod

Croeso i Vanilla Pod - bwyty hyfforddi bistro ar gampws Tycoch.

Mae bwyty Vanilla Pod yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arlwyo a lletygarwch ddatblygu eu sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr mewn cegin a bwyty proffesiynol.

Mae ein myfyrwyr dawnus ac angerddol yn ymrwymedig i gynnig profiad bwyta ardderchog i chi ynghyd ag awyrgylch croesawgar a bwyd blasus.

Mae’r fwydlen yn newid yn barhaus yn unol â’r tymhorau a’r tueddiadau a’r arloesiadau diweddaraf. Mae’r Vanilla Pod yn lle perffaith i fwyta ac i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gogyddion a gweithwyr lletygarwch proffesiynol.

Vanilla Pod logo

Cadw Bwrdd Nawr

Cinio arddull bistro

Dydd Mawrth
12-2pm
(archebion olaf 1.15pm)

Cinio ciniawa crand gyda’r hwyr

Nos Iau
6-9pm
(archebion olaf 6.30pm)

Cinio ciniawa crand

Dydd Gwener
12-2pm
(archebion olaf 1.15pm)

I gadw bwrdd yn y Vanilla Pod, ffoniwch:

01792 284252

Nosweithiau thematig

O bryd i’w gilydd rydyn ni’n cynnal nosweithiau thematig yn y Vanilla Pod.

Mae’r digwyddiadau arbennig hyn wedi’u cynllunio i gynnig profiad bwyta unigryw sy’n mynd y tu hwnt i’n ‘bwydlen safonol’. O ‘Flas y Môr’ i Flas ar yr Eidal a phob peth arall, mae ein nosweithiau thematig wedi cael eu paratoi’n ofalus i arddangos blasau a dulliau coginio diwylliannau neu ranbarthau penodol.