Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr

Disgyblion Abertawe'n mwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Fe wnaeth dros 850 o fyfyrwyr o bum ysgol yn Abertawe fwynhau Diwrnod Blasu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 19 Rhagfyr.

Cynigiodd y digwyddiad gwych hwn brofiad uniongyrchol o gyrsiau’r Coleg trwy sesiynau blasu pynciau Safon Uwch a galwedigaethol.

Yn ogystal â sgwrsio â’r staff gwybodus, fe wnaeth y disgyblion gwrdd â’u cydfyfyrwyr, er mwyn dod i adnabod y wynebau fydd yn mynd gyda nhw ar yr un daith academaidd gyffrous.