Skip to main content
 

Cyflwyno gwobr seiberddiogelwch nodedig i’r Coleg

Cyflwynwyd Gwobr Aur CyberFirst yn swyddogol i Goleg Gŵyr Abertawe gan gynrychiolwyr o CyberFirst a Jisc ar ddydd Iau, 25 Ebrill. 

Mae’r wobr yn dod ar ôl i’r Coleg gael ei gydnabod am ei ymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth ddiweddaraf o arbenigwyr seiberddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau seibr.

Wedi’i ddisgrifio fel hyrwyddwr cyfrifiadura ac addysg seiber ac wedi’i gydnabod am ei ddull rhagorol o addysgu seiberddiogelwch, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o dderbyn ei Wobr Aur.

Dywedodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesi: “Rydyn ni’n falch dros ben o fod wedi ennill y Wobr Aur mewn asesiad diweddar. Mae’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein hymdrechion digidol yn y Coleg, ac yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar bwysigrwydd seiberddiogelwch fel diwydiant hanfodol i’n dysgwyr anelu at weithio ynddo.”

I ennill gwobr CyberFirst, cyflwynodd Coleg Gŵyr Abertawe gais manwl gan ddangos ymrwymiad i ddyfodol y diwydiant seiber a datblygu talentau seiber. Cafodd y cais ei werthuso a’i sgorio yn erbyn meini prawf helaeth gan banel o gynrychiolwyr o’r llywodraeth, byd diwydiant a’r byd academaidd.

Wrth siarad am gydnabyddiaeth y Coleg, dywedodd Joanne Ralph o CyberFirst: “Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi dangos eu hymrwymiad a’u hymroddiad parhaus i ddarparu rhagoriaeth mewn addysg seiberddiogelwch. Mae eu taith o wobr arian i wobr aur yn dyst i’w buddsoddiad o amser, arbenigedd, ac adnoddau, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o selogion seiber. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r daith gyffrous hon ac i weld ble bydd hyn yn arwain.”