Skip to main content
Four ALPS members standing in front of pink Gower College Swansea pull-up banners and the ALPS logo on screen with text saying Croeso! Welcome!

Cyrraedd y Brig: Rhannu arferion gorau ar gyfer addysg oedolion yn Abertawe

Yn ddiweddar, fe wnaeth aelodau o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) gwrdd ar Gampws Llwyn y Bryn Coleg Gŵyr Abertawe ar gyfer digwyddiad rhannu arferion gorau.

Mae ALPS, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dod â sefydliadau blaenllaw ynghyd ym maes addysg oedolion, sy’n ceisio darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel i ateb anghenion a dyheadau’r gymuned.

Nod y digwyddiad oedd cefnogi’r holl bartneriaid gyda phynciau fel ymgorffori’r iaith Gymraeg ac ethos Cymraeg yn y cwricwlwm, yn ogystal â defnyddio offer digidol a thechnoleg. Darparwyd anerchiadau a gweithdai gan y Coleg, Addysg Oedolion Cymru a Chyngor Dinas Abertawe.

"Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau y gallwn ni, gyda’n gilydd, gynnig y dewis gorau a phrofiadau dysgu o ansawdd i oedolion sy’n ddysgwyr o fewn y gymuned," meddai Nikki Neale, Cyfarwyddwr Ansawdd a’r Cwricwlwm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Mae gennym astudiaethau achos ardderchog i ddysgwyr sydd wedi symud ymlaen a datblygu eu gyrfaoedd. Er enghraifft, Walid Musa Albuqai, a gafodd ei orfodi i ffoi o’i gartref yn Syria gyda’i wraig a’i ferched oherwydd y rhyfel.

“Daeth Walid i Abertawe heb fawr o Saesneg. Gyda chymorth Cyngor Dinas Abertawe, dechreuodd astudio Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) yn y Coleg.

“Mae dysgu Saesneg wedi helpu Walid i sicrhau swydd fel gyrrwr bws gyda FirstBus. Ac ym mis Medi, enillodd wobr yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!”  

Bydd y bartneriaeth yn helpu i dyfu a datblygu’r cyfleoedd hyn ymhellach i oedolion sy’n ddysgwyr yn Abertawe ac rydym yn gyffrous i glywed hyd yn oed fwy o lwyddiant mawr yn y dyfodol agos.