Skip to main content
Novus Gower Logo

Mae cyfnod newydd wedi gwawrio i Ddysgu a Sgiliau CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, wrth i Novus Gŵyr ddechrau cyflwyno’r cwricwlwm

Bydd y fenter ar y cyd yn rhoi cyfle i garcharorion sicrhau’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth, gan hybu twf yn economi De Cymru.

Mae cyfnod newydd wedi cychwyn heddiw i garcharorion De Cymru, wrth i garcharorion CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc ddechrau astudio rhaglenni addysg a ddarperir gan Novus Gŵyr.

Ar ôl sicrhau contract ym mis Gorffennaf i ddarparu Dysgu a Sgiliau yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, fe ddechreuodd Novus Gŵyr gyflwyno’r contract heddiw. Byddant yn cynnig rhaglenni addysg a ddatblygwyd i yn benodol i garcharorion, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth ystyrlon ar ôl iddynt gael ei rhyddhau. 

Menter ar y cyd unigryw yw Novus Gŵyr rhwng Novus, darparwr addysg carchardai nid-er-elw, a Choleg Gŵyr Abertawe. Mae’r fenter yn gyfuniad o brofiad Novus o ddarparu rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd i garcharorion (dros 30 mlynedd) a darpariaeth addysgu clodfawr Coleg Gŵyr Abertawe, sy’n ymwneud â chyrsiau academaidd a thechnegol o ansawdd uchel. Mae gan y Coleg hefyd gysylltiadau canmolus â’r farchnad lafur leol.

ydd y bartneriaeth yn darparu model arbenigol i garcharorion yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifan Parc a fydd yn cynnwys rhaglenni addysg o’r radd flaenaf’. Bydd y rhaglenni hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrchu cyfleoedd yn y farchnad lafur. Trwy wneud hyn, byddant yn hybu twf yn economi leol De Cymru.

Dywedodd Peter Cox, Rheolwr Gyfarwyddwr Novus Gŵyr a Chyfarwyddwr Bwrdd Novus Gŵyr: “Rydyn ni’n falch iawn o ddechrau gweithio i wneud gwahaniaeth i ddyfodol dysgwyr CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, gan eu harfogi â sgiliau a chymwysterau angenrheidiol fel y gallant ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Yn y pen draw, bydd hyn yn lleihau’r posibilrwydd o aildroseddu.

“Mae adsefydlu a sgiliau cyflogadwyedd yn rhan hanfodol o’n darpariaeth yn CEF a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc. Rydyn ni’n gyffrous i weithio’n agos â chyflogwyr lleol a chenedlaethol i gynnig cyfleoedd i’n dysgwyr, ac rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan bartneriaid newydd sydd am weithio gyda ni”

Dywedodd Mark Jones, Cyfarwyddwr Novus Gŵyr a Phennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe:  “Rydyn ni wrth ein bodd o gychwyn contract Dysgu a Sgiliau CEM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc. Mae amrywiaeth a chyrhaeddiad ein darpariaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono ac mae’r contract hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiwallu’r ystod ehangaf posib o anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ledled de Cymru.

“Trwy weithio â Novus, rydyn ni’n dod ag amrywiaeth eang o brofiad, arloesedd ac arbenigedd mewn cyflwyno addysg a sgiliau ynghyd. Mae’r ddau sefydliad yn ymrwymedig i drawsnewid bywydau dysgwyr Parc trwy ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy’n gwella siawns carcharorion o sicrhau cyflogaeth ystyrlon ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.”

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

Novus Gŵyr
Partneriaeth yw Novus Gŵyr rhwng Novus, sefydliad sy’n rhan o grŵp LTE, a Choleg Gŵyr Abertawe. Ffurfiwyd y sefydliad yn 2022.

Coleg Gŵyr Abertawe
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, ac mae’n denu dros 4,500 o fyfyrwyr amser llawn ac 8,000 o fyfyrwyr rhan-amser ledled Abertawe a’r cyffiniau bob blwyddyn. Mae’r Coleg yn ehangu cyrhaeddiad ei ddarpariaeth yn barhaus trwy gynnig cyrsiau sydd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cynnwys twf sylweddol mewn prentisiaethau o bob lefel. Mae’r Coleg hefyd wedi sefydlu cyfrs o raglenni cymorth cyflogadwyedd i helpu cymunedau ledled Abertawe. Yn ogystal, mae’r Coleg wedi ehangu ei ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 yn ogystal â’r ddarpariaeth AU, ar y cyd ag ysgolion lleol.

Mae gan y Coleg saith lleoliad ledled Abertawe ac mae’n un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, gyda dros 1,000 a throsiant blynyddol o bron i £50m.

Novus
Mae Novus yn darparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chymorth i oedolion a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr sydd yn y ddalfa. Ers bron i 30 mlynedd rydym wedi bod yn gweithio gyda dynion, menywod a phlant o bob oedran a gallu, yn y gymuned ac yn y ddalfa, i’w helpu i ddewis llwybrau newydd, gan eu darparu â gwasanaethau dysgu, sgiliau a chyfleoedd angenrheidiol fel y gallant sicrhau dyfodol gwell i’w hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid cyhoeddus a chymunedol a chyflogwyr i hwyluso’r nodau a rennir, er mwyn helpu unigolion i drawsnewid eu bywydau.

Rydym yn rhan o Grŵp LTE, sef menter gymdeithasol yn y DU sy’n ymrwymedig i wella bywydau a llwyddiant economaidd trwy weithgarwch dysgu a sgiliau. Mae pum sefydliad arbenigol yn rhan o’r grŵp - Coleg Manceinion, UCEN Manceinion, Novus, MOL a - ac maent oll yn meddu ar yr un weledigaeth a gwerthoedd. Rhagor o wybodaeth: www.novus.ac.uk Mae Coleg Gŵyr Abertawe ac LTE yn aelodau o Collab Group.

Ymholiadau’r cyfryngau – cysylltwch ag Allison Lowe 01792 284262 allison.lowe@gcs.ac.uk neu Emma 07730 617869  warde@ltegroup.co.uk