Skip to main content

Seremoni Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol 2023

Mae graddio yn achlysur pwysig iawn sy’n nodi canlyniadau blynyddoedd o waith caled, ymroddiad a thwf. Mae’n amser i ddathlu cyflawniadau, myfyrio ar y daith, ac edrych ymlaen at bennod newydd.

Yn ffodus, roedd yr haul yn disgleirio ar gyfer ein Seremoni Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti gyda digon o wenu. Rhoddwyd tystysgrifau a chofroddion i raddedigion am eu llwyddiannau, ac fe wnaethant hyd yn oed berfformio carioci i gloi’r digwyddiad gwych.

Tagiau

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn sicrhau ysgoloriaethau ar gyfer Ysgol Haf Fyd-eang 2023

Yn eu hymrwymiad i faethu profiadau dysgu byd-eang, mae Colegau Cymru wedi dewis dau fyfyriwr rhagorol, Carys ac Alpha, i gychwyn taith addysgol gyffrous. Mae’r unigolion talentog hyn wedi ennill ysgoloriaethau i gymryd rhan mewn Ysgol Haf Fyd-eang am dair wythnos yng Ngholeg Humber, Toronto, gan ganolbwyntio ar faes cyfareddol podledu. Bydd y cyfle unigryw hwn yn rhoi modd i Carys ac Alpha ehangu eu gorwelion, datblygu sgiliau newydd, a rhwydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant podledu. 
 

Tagiau

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau 2022/23

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ‘Gwobr Rhyngwladoliaeth y Cyngor Prydeinig’ yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC), sy’n dathlu’r arferion gorau a mwyaf blaengar ymhlith colegau addysg bellach y DU. 

Mae ‘Gwobr Rhyngwladoliaeth y Cyngor Prydeinig’ yn cydnabod y rôl sydd gan y Coleg, nid yn unig o ran datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr, ond datblygu’r myfyrwyr fel dinasyddion rhyngwladol. Mae’n cydnabod y manteision o weithio gyda myfyrwyr a sefydliadau, nid yn unig yn y DU, ond ledled Ewrop a’r byd. 

Ymweld â Chyprus ar gyfer Astudiaeth Ryngwladol

Mae Hyrwyddwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe, Claire Reid, yn mynd i Gyprus fis nesaf fel rhan o astudiaeth ryngwladol, yn edrych ar sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc. 

Bydd y daith, sy’n cael ei threfnu gan y Cyngor Prydeinig, yn cael ei chynnal dros bum niwrnod ac mae’n cynnwys athrawon a darlithwyr o amrywiaeth o leoliadau addysgol o bob rhan o’r DU. Byddant yn ymweld ag ysgolion, sefydliadau anllywodraethol a busnesau yn rhanbarth Nicosia. 

Canmoliaeth Coleg Gŵyr Abertawe yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC)

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei arferion gorau a’i harloesed mewn dau chategori gwahanol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2022/23.

Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn gyfle i ddathlu arferion mwyaf arloesol Colegau’r DU. Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan AoC er mwyn cymeradwyo ardderchowgrwydd a chydnabod doniau staff ar bob lefel. Mae’r gwobrau yn amlinellu ehangder ac ansawdd addysg yn y sector Colegau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y gwobrau isod:

Agor cyfleoedd byd-eang

Mae’r Swyddfa Ryngwladol wedi derbyn newyddion ardderchog – roedd ei chais i Raglen Taith Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus.

Roedd y cais, sy’n werth ychydig dan £300,000, yn cynnwys cyfnewidiadau dysgu i Bortiwgal, Ffrainc, Tsieina, Canada, ac – am y tro cyntaf – cyllid ar gyfer cyfnewidiad gan ein partneriaid yn Chongqing, Tsieina i ddod â’u myfyrwyr nhw i ni yma. Yn ogystal â’r rhain, mae’n cynnwys ymweliadau paratoadol i staff â’r Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Fiet-nam er mwyn datblygu partneriaethau newydd, a chryfhau’r partneriaethau sydd eisoes gyda ni.

Tagiau

Sylw anrhydeddus gan Gaergrawnt!

Mae Legolas, un o’n myfyrwyr rhyngwladol blwyddyn 1af, wedi derbyn sylw anrhydeddus gan Adran Gymdeithaseg Gaergrawnt am ei gyfraniad i’r gystadleuaeth ffotograffiaeth. Thema’r gystadleuaeth oedd Seicoleg Gwytnwch.

Tynnwyd llun Legolas ym mae prydferth Caswell, Abertawe, ar ddiwrnod allan gyda’i deulu homestay. Mae e’n hynod o falch bod ei waith wedi cael ei enwebu a’i gydnabod gan brifysgol mor enwog.