TGAU Cemeg
Arolwg
Mae’r cwrs (CBAC TGAU Cemeg) yn cynnwys tair uned; mae dwy ohonynt yn edrych ar bwnc bioleg gwahanol ac mae’r drydedd uned yn profi sgiliau gwyddonol.
Asesir y cwrs drwy ddau arholiad – un ar gyfer uned 1 ac un ar gyfer uned 2 (mae pob arholiad yn cyfrif am 45% o farciau’r cwrs sy’n gwneud cyfanswm o 90%). Mae ‘asesiadau ymarferol’ yn cael eu cwblhau yn y dosbarth (10% o farciau’r cwrs).
Mae’r cwrs yn rhedeg am 2.5 awr yr wythnos am 30 wythnos.
Bydd rhaid i fyfyrwyr gwbhlau nifer sylweddol o oriau astudio yn ystod eu hamser eu hunain.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen cymwysterau. Bydd rhaid i fyfyrwyr fabwysiadu ymagwedd resymegol a mathemategol at eu hastudiaethau.
Uned 1: SYLWEDDAU CEMEGOL, ADWEITHIAU AC ADNODDAU HANFODOL
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Natur sylweddau ac adweithiau cemegol
- Adeiledd yr atom a’r tabl cyfnodol
- Dŵr
- Y Ddaear sy’n newid yn barhaus
- Cyfradd newid cemegol
- Calchfaen
Uned 2: BONDIO CEMEGOL, CYMHWYSO ADWEITHIAU CEMEGOL A CHEMEG ORGANIG
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 45% o’r cymhwyster
Mae’r uned hon yn cynnwys y pynciau canlynol:
- Bondio, adeiledd a phriodweddau
- Asidau, basau a halwynau
- Metelau ac echdynnu metelau
- Adweithiau cemegol ac ynni
- Olew crai, tanwyddau a chemeg organig
- Adweithiau cildroadwy, prosesau diwydiannol a chemegion pwysig
Uned 3: ASESIAD YMARFEROL 10% o’r cymhwyster
Adran A – Cael canlyniadau
Adran B – Dadansoddi a gwerthuso canlyniadau
Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar wefan CBAC TGAU Gwyddoniaeth.
Mae TGAU Cemeg yn cynnig cymhwyster TGAU mewn gwyddoniaeth sy’n ofynnol ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon. Byddai dilyniant i gyrsiau Gwyddoniaeth Lefel 3 megis Safon Uwch a BTEC yn bosibl.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddosbarthiadau ar gael felly dewch yn ôl yn fuan i gael dyddiadau ac amserau eraill..