Digwyddiadau a Nosweithiau Agored
Darganfod sut beth yw bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mae ein digwyddiadau a’n nosweithiau agored yn rhoi’r cyfle perffaith i chi gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Ymunwch â ni i ddarganfod yr amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, cwrdd â’r darlithwyr, a chael yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Digwyddiad agored prentisiaethau
Dydd Mercher 5 Mehefin – Campws Tycoch 3.30-7.30pm
Dewch i’n digwyddiad agored prentisiaethau i wybod rhagor am ein darpariaeth prentisiaethau arobryn a chychwyn ar daith drawsffurfiol tuag at yrfa lewyrchus!
Gallwch hefyd gwrdd â chyflogwyr lleol, darganfod swyddi gwag a chyrchu cymorth ar sicrhau gyrfa/prentisiaeth.
Mae ein digwyddiad agored prentisiaethau ar gyfer pobl o unrhyw oedran – p’un ai ydych chi newydd adael yr ysgol, yn chwilio am ddewis arall i addysg uwch draddodiadol, neu’n gobeithio uwchsgilio yn eich swydd bresennol.
Cofrestrwch ar gyfer ein nosweithiau agored prentisiaethaur
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni ymateb cyn gynted ag sy’n bosibl: marketing@gcs.ac.uk
Nosweithiau agored cyrsiau amser llawn
Mae ein nosweithiau agored cyrsiau amser llawn wedi gorffen ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
Cadw lygad ar y dudalen hon ar gyfer cyhoeddiadau’r flwyddyn academaidd nesaf (2025/2026).
Campws Gorseinon
- Pob cwrs Safon Uwch
- Gweld cyrsiau Safon Uwch
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Busnes
- Y cyfryngau creadigol
- Peirianneg
- Iechyd a gofal plant
- TG
- Cerbydau modur
- Y celfyddydau perfformio
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Chwaraeon
- Cynhyrchu yn y theatr
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Campws Tycoch
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Arlwyo a lletygarwch
- Busnes
- Cerbydau modur
- Chwaraeon
- Dilyniant i AU
- Garddwriaeth
- Gwallt a harddwch
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Iechyd a gofal plant
- Peirianneg
- Peirianneg electronig
- Plymwaith
- Teithio a thwristiaeth
- TG
- Trydanol
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Campws Llwyn y Bryn
Cyrsiau galwedigaethol yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 yn y meysydd canlynol:
- Celf a dylunio (gan gynnwys diploma sylfaen)
- Ffotograffiaeth
- Cerddoriaeth
Gallwch chi holi ynghylch opsiynau mynediad, prentisiaeth ac AU hefyd.
Campws Llys Jiwbilî
Dere i’r noson agored hon i wybod rhagor am gyrsiau galwedigaethol amgylchedd adeiledig Lefelau 1-3 yn y meysydd canlynol:
- Peintio ac addurno
- Gwaith brics
- Gwaith coed
Gelli di ofyn am ein gyrsiau amgylchedd adeiledig wedi’u lleoli ar ein campysau eraill hefyd a’n prentisiaethau.