Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefel 3 - Diploma Estynedig
Arolwg
Bwriedir y cwrs Lefel 3 hwn yn benodol i ddysgwyr sydd â diddordeb angerddol mewn gweithio gyda phlant ac a hoffai ddilyn gyrfa ym maes gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, neu feysydd cysylltiedig.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cwblhau portffolio seiliedig ar eich profiadau mewn lleoliad. Bydd eich aseswr yn eich arsylwi ar eich lleoliad hefyd. Cewch eich addysgu sut i roi’r profiadau dysgu a chwarae gorau posibl i blant yn ogystal â gofalu am eu hanghenion sylfaenol.
Gwybodaeth allweddol
- Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
- Neu gwblhau’r cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 yn llwyddiannus, gydag adroddiad tiwtor cadarnhaol.
- Amser llawn, dwy flynedd
- Rhannu’r wythnos – mewn lleoliad a phresenoldeb yn y Coleg
- Wythnosau cyfan mewn lleoliad
- Mae asesiadau’n cynnwys arsylwadau yn y lleoliad gwaith ac asesiadau ysgrifenedig wedi’u gosod gan CBAC.
Bydd pasio’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster sy’n rhoi modd i chi symud ymlaen i’r brifysgol neu fyd gwaith. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio mewn meithrinfa ddydd neu fel cynorthwyydd addysgu. Mae cyfleoedd prifysgol yn cynnwys astudio addysgu, nyrsio, gradd blynyddoedd cynnar, therapi chwarae neu waith cymdeithasol.
- Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch chi hefyd yn astudio Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd (Lefel 2).
- Mae gwiriad DBS (tua £40) yn ofynnol cyn dechrau’ch lleoliad
- Byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas.