Busnes Lefel 3 gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig – Diploma
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am astudio Gwasanaethau Ariannol, Marchnata a Rheolaeth Busnes.
BTEC Diploma (Cenedlaethol) Lefel 3 mewn Busnes
Bydd yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys Marchnata, Adnoddau Dynol, Rheolaeth, a TG gyda phwyslais ar Gyllid (mae rhai unedau’n cynnwys arholiadau).
Mae unedau astudio’n cynnwys:
- Archwilio Busnes
- Datblygu Ymgyrch Marchnata (Allanol)
- Cyllid Personol a Busnes (Allanol)
- Rheoli Digwyddiad
- Busnes Rhyngwladol
- Egwyddorion Rheolaeth (Allanol)
- Hyrwyddo Busnes Newydd / Marchnata Digidol
- Proses Recriwtio a Dethol.
Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)
Mae’r cymhwyster CIM hwn yn gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan fusnesau ledled y byd. Mae’n rhoi dealltwriaeth o’r cysyniadau allweddol a’r derminoleg a ddefnyddir mewn marchnata. Mae’r cwrs yn cynnwys chwe uned, mae arholiadau mewn tri ohonynt, ac mae’r tri arall yn seiliedig ar aseiniadau. Ar ddiwedd y cymhwyster hwn, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o rôl a swyddogaeth marchnata, marchnata digidol mewn sefydliadau a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad prynwyr. Byddwch hefyd yn gallu nodi elfennau allweddol yr amgylchedd marchnata, marchnata digidol a strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith o fewn y cymysgedd marchnata i helpu i ddatblygu ymgyrchoedd digidol.
- Darganfod Marchnata
- Yr Amgylchedd Marchnata
- Y Cymysgedd Marchnata.
Asesu: Arholiad dewis lluosog.
Bagloriaeth Cymru (Dwy flynedd)
Mae cwrs Bagloriaeth Cymru yn datblygu gwybodaeth; dealltwriaeth a sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo mewn addysg uwch ac yn y gweithle.
Trwy Fagloriaeth Cymru bydd dysgwyr yn codi eu lefelau sgiliau a magu hyder, gan eu galluogi a’u grymuso i gymryd eu lle fel dinasyddion cyfrifol a gweithgar o fewn cymdeithas amrywiol. Trwy ddatblygu sgiliau, mae Bagloriaeth Cymru yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gymdeithas, y gymuned y maen nhw’n byw ynddi ac ymwybyddiaeth o faterion, digwyddiadau a safbwyntiau byd-eang. Mae Bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar Dystysgrif Her Sgiliau ochr yn ochr â Chymwysterau Ategol. Rhaid bodloni gofynion y Dystysgrif Her Sgiliau a Chymwysterau Ategol er mwyn cyflawni cymhwyster cyffredinol Bagloriaeth Cymru.
Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys pedair elfen y mae pob dysgwr yn eu dilyn:
- Prosiect Unigol
- Her Menter a Chyflogadwyedd
- Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Her Gymunedol.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg
- Neu broffil Teilyngdod BTEC Diploma lefel 2 mewn Busnes a TGAU Saesneg.
Mae cyfweliad yn ofynnol.
Prifysgol neu gyflogaeth.
Bydd holl fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn ymweliad Rhyngwladol/yn y DU a ariennir gan y myfyriwr.
Ffi cofrestru’r myfyriwr: £40.