UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio - Actio
Trosolwg
Corff dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL)
Bwriedir y cwrs Diploma Proffesiynol mewn Perfformio (Y Cwmni Actio) i fyfyrwyr 18+ oed sydd am astudio actio mewn coleg drama arbenigol, neu ddrama yn y brifysgol.
Amcanion y cwrs:
- Datblygu sgiliau perfformio priodol ar gyfer mynediad i’r diwydiannau creadigol
- Diffinio uchelgeisiau celfyddydol a chyfleoedd dilyniant proffesiynol
- Datblygu ymarfer proffesiynol a chymhwyso safonau proffesiynol wrth weithio ar brosiectau creadigol
- Cyflawni cymhwyster Lefel 4 a gydnabyddir yn genedlaethol.
Canlyniadau’r cwrs:
- Trwy brosiectau perfformio ymarferol amrywiol, bydd myfyrwyr yn datblygu ymhellach ystod o sgiliau actio, llais a symud
- Bydd myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo i baratoi ar gyfer clyweliadau
- Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau perfformio mewn lleoliadau proffesiynol.
Gwybodaeth allweddol
- Rhaglen tri chwrs Safon Uwch, gan gynnwys Drama
- Diploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio (Rhagoriaeth neu Deilyngdod)
- Profiad neu gymwysterau perthnasol eraill fel y pennir gan dîm derbyn y Coleg
- Mynediad trwy gyfweliad a chlyweliad.
Mae’r cwrs yn cynnwys tair uned orfodol:
- Uned un: Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol
- Uned dau: Prosiect Perfformio Arbenigol
- Uned tri: Prosiect Perfformio Arbenigol.
Er mwyn ennill y Diploma, rhaid i fyfyrwyr ennill gradd Pasio o leiaf.
Asesu
Asesir y cymhwyster trwy:
- Dwu uned wedi’u hasesu a’u dilysu yn fewnol (Unedau 1 a 2), yn amodol ar broses sicrhau ansawdd gan UAL
- Un uned wedi’i hasesu a’i dilysu (Uned 3), wedi’i marcio gan y ganolfan a’i chymedroli’n allanol gan UAL.
Dim ond graddau Pasio a roddir ar gyfer Uned 1 ac Uned 2. Mae’r cymhwyster cyffredinol yn cael ei raddio fel Methu, Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth yn seiliedig ar Uned 3.
Mae cyn-fyfyrwyr y cwrs hwn wedi symud ymlaen i golegau drama o fri cenedlaethol gan gynnwys Stiwdio Ddrama Llundain, Arts Educational School Llundain, Royal Birmingham Conservatoire, Leeds Conservatoire, Ysgol Theatr Bristol Old Vic, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, East 15, LAMDA, GSA Conservatoire, LIPA and Rose Bruford. Mae rhai wedi symud ymlaen i brifysgolion fel Royal Holloway a Chaer-wysg.
Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen i waith proffesiynol ym myd theatr a theledu.
Mae perfformio mewn cynyrchiadau yn rhan o’r cwrs, ac mae gwaith yn y gorffennol wedi cynnwys “Lorca’s Women”, “Terrible is the Temptation to Do Good” (prosiect Brecht), “Blood Wedding”, “Medea”, a “Generation O” (casgliad o waith gan Gary Owen).
Mae myfyrwyr yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o berfformiadau a chymryd rhan mewn gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae ymweliadau â theatrau cenedlaethol a rhanbarthol yn rhan o’r cwrs hefyd.
Costau’r cwrs
Ffi’r cwrs yw £500 sy’n cynnwys gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Hyd y cwrs
Addysgir y cwrs hwn dros un flwyddyn academaidd ar Gampws Gorseinon ond byddwch yn mynychu rhai dosbarthiadau yn Theatr y Grand Abertawe.