Skip to main content

Troseddeg Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
Diploma
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Y Dystysgrif yw blwyddyn gyntaf y cwrs. Mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i’r cwrs Diploma yn y flwyddyn ddilynol. Mae’r rhaglen hon yn para dwy flynedd ac mae’n rhoi sylfaen i chi mewn theori troseddegol a sgiliau ymarferol.  

Mae sgiliau troseddeg yn berthnasol ar draws amrywiaeth o broffesiynau ym maes cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau fel heddweision, swyddogion prawf a charchar, a gweithwyr cymdeithasol. Mae’r sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a chyfathrebu a ddatblygir gan fyfyrwyr troseddeg yn golygu bod galw mawr amdanynt gan ein cyflogwyr y tu hwnt i’r sector cyfiawnder troseddol, fel y rheini ym maes ymchwil gymdeithasol a gwleidyddiaeth.  

Dylid astudio’r cwrs hwn ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch eraill fel Y Gyfraith, Seicoleg a Chymdeithaseg, gan roi modd i chi ehangu eich sylfaen gwybodaeth a gwella’ch rhagolygon mewn meysydd astudio amrywiol.

Gwybodaeth allweddol

Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys gradd B neu uwch mewn Saesneg Iaith.

Mae gwersi ar y cwrs hwn yn cynnwys sesiynau ymarferol (gweithgareddau safle trosedd) a sesiynau dan arweiniad athro/athrawes. 

Blwyddyn 1 – Tystysgrif Gymhwysol mewn Troseddeg.    

Uned 1 – Datblygu ymgyrch i sicrhau newid ynghylch trosedd. Mae’r uned hon yn archwilio amrywiol fathau o drosedd. Mae’n archwilio pam mae pobl yn petruso adrodd troseddau y maen nhw wedi’u profi a pham mae mân droseddau yn gallu bod yn gysylltiedig â throseddau mwy difrifol.  

Uned 2 – Mae’r uned yn archwilio sut mae cymdeithas yn penderfynu beth yw ymddygiad troseddol, a’r rhesymau y tu ôl i weithredoedd troseddol. Bydd dysgwyr yn archwilio damcaniaethau troseddegol amrywiol, gan werthuso eu perthnasedd i wahanol fathau o drosedd a’u cymhwyso i senarios bywyd go iawn.

Blwyddyn 2 – Diploma Cymhwysol Lefel 3 mewn Troseddeg.  

Uned 3 – Datblygu sgiliau i adolygu cyfiawnder rheithfarnau mewn achosion troseddol drwy archwilio gwybodaeth. Mae’r uned yn archwilio rolau personél sy’n ymwneud â throsedd, technegau ymchwiliol a ddefnyddir i adnabod troseddwyr, a’r broses y mae rhywun dan amheuaeth yn mynd trwyddi ar ôl cael ei gyhuddo/chyhuddo gan yr heddlu/Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae dulliau diogelu sy’n sicrhau treialon teg hefyd yn cael eu harchwilio.  

Uned 4 – Canolbwyntio ar y rheswm pam mae pobl yn gyffredinol yn cydymffurfio â chyfreithiau, y sefydliadau cymdeithasol a sefydlwyd i sicrhau cydymffurfiad, y canlyniadau a wynebir gan droseddwyr, y rhesymau am gosb, a’r dulliau y mae cymdeithas yn eu defnyddio i reoli ymddygiad troseddol.  

Asesu

Blwyddyn 1:  

  • 50% Asesiad dan Reolaeth wyth awr – Newid Ymwybyddiaeth o Drosedd
  • 50% Arholiad – Damcaniaethau Troseddegol.

Blwyddyn 2:  

  • 50% Asesiad dan Reolaeth wyth awr – Safle Trosedd i’r Llys  
  • 50% Arholiad – Trosedd a Chosb.

Dyfarnwyd pwyntiau UCAS i’r cwrs Troseddeg Lefel 3 ac maent i'w gweld ar wefan UCAS.

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn symud ymlaen i’r brifysgol ac yn dilyn gyrfaoedd gyda’r gwasanaeth prawf, yr heddlu neu’r system cyfiawnder troseddol. Mae llwybrau eraill yn cynnwys cyrsiau gradd amrywiol yn y canlynol:

  • BSc Troseddeg
  • BA Troseddeg
  • BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
  • BSc (Anrh) Troseddeg a Seicoleg
  • LLB (Anrh) Y Gyfraith a Throseddeg
  • BA (Anrh) Troseddeg a Chymdeithaseg
  • BA (Anrh) Troseddeg
  • BSc (Anrh) Seicoleg a Chymdeithaseg
  • BSc Troseddeg a’r Gyfraith.

Mae gweithgareddau allgyrsiol yn cynnwys:

  • Anerchiad am ymchwiliad safle trosedd lleol
  • Anerchiad Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Abi Carter – Archaeolegydd Fforensig
  • Ben Giles – Glanhäwr Safle Trosedd
  • Anerchiad gan fargyfreithiwr / cyfreithiwr
  • Taith i’r llysoedd lleol
  • Taith i Lundain – Taith Jac y Rhwygwr a Thaith y Krays.