Skip to main content

Peirianneg / Electroneg Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaen

Prentisiaeth
Lefel 2
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddechrau gyrfa mewn peirianneg. Mae llwybrau gwahanol ar gael o fewn y fframwaith megis peirianneg gweithgynhyrchu, gweithrediadau a chynnal a chadw, electroneg, weldio a ffabrigo.

Ychwanegwyd Ionawr 2021

Gwybodaeth allweddol

O leiaf radd D mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a phwnc Gwyddoniaeth a dau bwnc arall.

Byddwch hefyd yn astudio sgiliau hanfodol mewn rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol. Byddwch yn dod i’r Coleg un diwrnod yr wythnos, a byddwch yn treulio’r pedwar diwrnod arall yn hyfforddi yn y swydd.

Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Mathemateg
  • Gwyddor peirianneg
  • Electroneg
  • Egwyddorion mecanyddol a/neu drydanol
  • Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
  • Iechyd a diogelwch
  • Cyfathrebu ar gyfer technegwyr
  • Roboteg
  • Deallusrwydd artiffisial AI
  • Dylunio PCB
  • PLC
  • Cystadlaethau sgiliau.

Prentisiaeth Peirianneg/Electroneg (Lefel 3).