Prentisiaeth Sylfaen Galwedigaethau Trywel – Gwaith Brics
Prentisiaeth
Lefel 2
Diploma
Llys Jiwbilî
12-24 months
Ffôn:
01792 284400 (Llys Jiwbilî)
E-bost: training@gcs.ac.uk
Arolwg
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn datblygu’ch sgiliau crefft i weithio i safonau diwydiannol cydnabeddedig yn y fasnach gosod brics. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd mewn gwaith maen, gwaith blociau a gwaith brics a byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau sylfaenol ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Cyfuniad o raddau pasio ar lefel TGAU, profiad gwaith blaenorol yn y diwydiant, cyflawniad ar gwrs dilyniant perthnasol a chanlyniadau asesiad ar-lein byddwn yn trafod hyn yn y cyfweliad.
Byddai gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.
Unedau gorfodol / unedau dewisol:
- Dehongli lluniadau gweithredol i osod allan adeileddau gwaith maen
- Gwaith maen uniad tenau a chladin gwaith maen
- Adeiladu waliau solet
- Pileri ynysig a chysylltiedig
- Adeiladu waliau ceudod i greu adeileddau gwaith maen
- Atgyweirio a chynnal a chadw adeileddau gwaith maen yn y gweithle
- Cydymffurfio ag iechyd a diogelwch cyffredinol yn y gweithle
- Gosod system ddraenio yn y gweithle
- Trin a storio adnoddau yn y gweithle
Sgiliau hanfodol:
- Cymhwyso Rhif Lefel 1
- Cyfathrebu Lefel 1
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
Gallwch symud ymlaen i’r cwrs Galwedigaethau Trywel Lefel 3. Neu os yw’ch trefniadau gwaith wedi newid sy’n golygu eich bod yn gwneud agweddau eraill ar adeiladu, efallai y byddai’n fuddiol i chi arallgyfeirio ac ennill achrediad a gymeradwyir gan y diwydiant trwy ddilyn ein cyrsiau adeiladu eraill.
Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio’r Diploma Lefel 2 ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori. Mae hyn yn cynnwys profion ymarferol a dewis lluosog. Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau gan dystion ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr.
Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni.
Bydd yn cymryd 12 - 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.