Peirianneg / Electroneg Level 3 - Prentisiaeth
Prentisiaeth
Lefel 3
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa mewn peirianneg. Mae llwybrau gwahanol ar gael o fewn y fframwaith megis peirianneg gweithgynhyrchu, gweithrediadau a chynnal a chadw, electroneg, weldio a ffabrigo.
Ychwanegwyd Ionawr 2021
Gwybodaeth allweddol
Gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg a thri phwnc arall y dylai un fod yn bwnc gwyddoniaeth.
Byddwch yn dod i’r Coleg un diwrnod yr wythnos, a byddwch yn treulio’r pedwar diwrnod arall yn hyfforddi yn y swydd.
Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Mathemateg
- Gwyddor peirianneg
- Electroneg
- Egwyddorion mecanyddol a/neu drydanol
- Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
- Iechyd a diogelwch
- Cyfathrebu ar gyfer technegwyr
- Roboteg
- Deallusrwydd artiffisial AI
- Dylunio PCB
- PLC
- Cystadlaethau sgiliau.
Byddwch hefyd yn astudio sgiliau hanfodol mewn rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol.
Gyrfa fel technegydd goruchwylio. Yn y Coleg gallech symud ymlaen i’r cwrs HNC/HND mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu Beirianneg Fecanyddol.