William yn ennill gwobr am brosiect gwyddoniaeth


Updated 14/09/2017

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan Tata Steel i gydnabod y gwaith a wnaeth yn ystod lleoliad haf.

Roedd William Hughes, sy’n astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth ar gampws Gorseinon, wedi derbyn siec a gwobr am y Prosiect Gwerth Ychwanegol Gorau.

Roedd y lleoliad haf yn rhan o Gynllun Cyswllt 2017, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr STEM weithio ar brosiectau ‘bywyd go iawn’ ym myd diwydiant, ac a noddir gan Worshipful Company of Armourers and Brasiers.

Yn ogystal â gwobr William, mae’r Coleg wedi derbyn rhodd o £200 gan Tata Steel y bydd yr adran Wyddoniaeth yn ei defnyddio i ddatblygu gwaith ymchwil STEM ymhellach a phrosiectau ymgysylltu â myfyrwyr.

Yn ystod trafodaeth ddiweddar gyda myfyrwyr UG Gwyddoniaeth sy’n newydd i’r Coleg, roedd William wedi trafod y manteision o gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil STEM allgyrsiol, naill ai’n gweithio’n annibynnol neu gyda chyflogwyr lleol megis Tata, Morlyn Llanw Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe.

“Mae’r cyfleoedd hyn i fyfyrwyr yn gydran bwysig o’u haddysg STEM gyffredinol,” dywedodd Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu ar gyfer Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol Denise Thomas. “Pan fyddan nhw’n dod i wneud cais am gyrsiau prifysgol mewn pynciau STEM, mae ein profiad wedi dangos bod y gweithgareddau hyn yn nodwedd allweddol o’u datganiadau personol a’u cyfweliadau ac maen nhw’n gwella eu cyfleoedd o gael cynnig lle yn sylweddol.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant William am ennill gwobr Prosiect Gwerth Ychwanegol Gorau a Gwobr Aur Crest y llynedd, a enillodd fel rhan o dîm yn gweithio ar gadair olwyn wedi’i gyrru gan gell tanwydd hydrogen ar y cyd ag EESW/STEM Cymru a Power & Water. Dwi’n gobeithio nawr y bydd myfyrwyr eraill eisiau dilyn ôl ei draed.”

“Rydyn ni’n falch o gefnogi Cynllun Cyswllt Tata Steel,” dywedodd yr Athro William Bonfield CBE FRS, Cadeirydd Pwyllgor Gwyddor Deunyddiau Armourers and Brasiers. “Mae’n rhoi cyfle gwerthfawr i bobl ifanc brofi, yn uniongyrchol, y manteision a’r cyfleoedd y mae gyrfaoedd ym maes gwyddor deunyddiau yn eu cynnig. Gwneud dur yw’r diwydiant sydd wrth wraidd economi gweithgynhyrchu y Deyrnas Unedig. Llongyfarchiadau i William ar ei lwyddiant.”

DIWEDD

Nodiadau:

Mae The Worshipful Company of Armourers and Brasiers yn gwmni lifrai yn Ninas Llundain. Bob blwyddyn mae tua 75% o’i grantiau elusennol yn cael eu rhoi i gefnogi addysg a gwaith ymchwil gwyddoniaeth, gyda phwyslais ar wyddor deunyddiau.

Tags: