Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Gemau'r Gymanwlad


Updated 07/09/2017

Mae aelodau o Academi Pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Gemau'r Gymanwlad a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Abertawe.

Fel enillwyr Gwobr Chwaraeon Abertawe yn 2016, cafodd y tîm ei wahodd i ymuno â Cludwr y Baton ar y 6ed cam o'r Ras Gyfnewid rhwng Blackpill a'r 360 Beach and Watersports Centre. 

"Roedd hi'n anrhydedd mawr i'r tîm ac roeddem ni'n falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad mor arbennig," dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Chwaraeon, Sarah Lewis. "Roedd pawb wedi mwynhau cerdded yng nghwmni Cludwr y Baton a theithio ar hyd y promenâd ar y Trên Tir."

* Roedd 11 cam yn Ras Gyfnewid y Baton yn dechrau yn Knab Rock am 7.30am ac yn gorffen yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tua 10:30am.

Tags: