Croesawu siaradwyr Cymraeg i’r Coleg


Updated 25/08/2017

Eleni am y tro cyntaf, cynhaliwyd Diwrnod Croeso yng Ngholeg Gwyr Abertawe i’r bobl ifanc hynny sy’n siarad Cymraeg ac wedi gwneud cais i ddechrau’n y coleg ym mis Medi.  Bwriad y diwrnod yma oedd croesawu myfyrwyr i un o gampysau’r coleg fel eu bod yn dod i nabod y lleoliad, cwrdd a siaradwyr Cymraeg eraill sydd wedi gwneud cais i’r coleg, cwrdd a rhai o’n staff cyfrwng Cymraeg, a dysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y Gymraeg yn y coleg.

Bu sesiwn gan ddarlithwyr Chwaraeon Wayne Price a Sian Fowler, Eleri Griffiths o Menter Abertawe, a Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y coleg, Anna Davies.  Cafwyd llawer o hwyl gyda amrywiaeth o dasgau adeiladu tim, gweithgareddau torri’r garw, a threfnu digwyddiad i hyrwyddo’r Gymraeg yn y Coleg.

“Roeddem yn hapus iawn gyda’r ymateb i’r diwrnod hwn, gan ei fod yn dangos bod diddordeb ymysg pobl ifanc i ddefnyddio eu Cymraeg ,” medd Anna.  “Roedd yn gyfle gwych i ddarpar fyfyrwyr gwrdd â phobl ifanc eraill ar draws yr ardal, a’u paratoi at gychwyn yn y coleg fis Medi.  Roedd ganddynt i gyd un peth yn gyffredin, a hynny oedd eu bod i gyd a’r sgil unigryw hynny o fedru siarad y Gymraeg.” 

“Pwrpas y diwrnod oedd dod a phawb at ei gilydd, a chodi ymwybyddiaeth am werth y sgil honno, yn y gobaith na fyddent yn anghofio’u Cymraeg yma yn y coleg.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff a helpodd gyda’r diwrnod a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn, yn arbennig i Sian Jones, Wayne Price, Sian Fowler, Mari Jones a Helen Bjork.  Gobeithio fydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol ar galendr y coleg, ac rywbeth i ddarpar fyfyrwyr edrych ymlaen ato.”

Tags: