Myfyrwyr yn mynd i golegau gorau’r DU


Updated 11/04/2017

Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi llwyddo i gael lleoedd yn rhai o’r ysgolion actio a theatr mwyaf poblogaidd yn y wlad.

Mae’r myfyrwyr – o amrywiaeth o gyrsiau BTEC y Celfyddydau Perfformio, y Celfyddydau Cynhyrchu a Safon Uwch Drama – yn dod i ddiwedd eu cyfnod ar gampws Gorseinon ac yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.

“Mae’r broses glyweliadau yn un ddwys ac mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig ac felly rydyn ni wrth ein boddau gyda’r llwyddiannau eleni,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu David Lloyd-Jones. “Rydyn ni wedi magu cysylltiadau gwaith ardderchog â rhai o’r colegau sy’n perfformio orau yn y DU – ac mae gweithdai clyweliadau a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol arweiniol ym myd diwydiant yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar gampws Gorseinon. Mae’n wych gweld bod yr holl waith caled ‘na wedi talu ar ei ganfed. Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r myfyrwyr hyn wrth iddyn nhw symud ymlaen. Rydyn ni’n dymuno pob hwyl iddyn nhw i gyd ar gyfer y dyfodol.”

Y myfyrwyr yw:

  • Megan Coslett (sy’n mynd i Brifysgol Caergrawnt i astudio Saesneg, Drama a’r Celfyddydau);
  • Lauren Raisbeck (Ysgol Asddysgol y Celfyddydau Llundain);
  • Taylor Brett (Ysgol Ganolog Frenhinol Lleferydd a Drama);
  • Meg Marston-Phipps (Prifysgol Edge Hill i astudio Drama);
  • Daniel Davies (Academi’r Celfyddydau Perfformio Mountview);
  • Connor Brain (Coleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford);
  • Rhys Ferris (Coleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford);
  • Kieran Gough (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru);
  • Joel Williams (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru);
  • Conar O’Brien (Sefydliad y Celfyddydau Perfformio Lerpwl)
  • Hollie Singer (BIMM – Sefydliad Cerddoriaeth Fodern Prydain ac Iwerddon).

Llun: Nikkila Thomas

Tags: