Prentisiaethau yn ‘ben ac ysgwyddau uwchben y lleill’


Updated 17/03/2017

Mae salon arobryn yr Hair Lounge (sydd ag adeiladau yn Fforestfach a Sgiwen) yn dibynnu ar eu prentisiaid i redeg y busnes yn esmwyth o ddydd i ddydd.

Roedd yr uwch-steilydd Adrian wedi dewis y llwybr prentisiaeth ac wedi gweithio yn yr Hair Lounge am bron pum mlynedd.

“Mae prentisiaeth wedi bod yn fanteisiol iawn i mi. Roedd hi’n llwyfan gwych ar gyfer dysgu oherwydd roeddwn i’n gallu bod yn fwy ymarferol o’r diwrnod cyntaf,” dywedodd. “Yr elfen fwyaf gwobrwyol o’m swydd yw gweld gwên fawr ar wyneb fy nghleient pan fydda i wedi cwblhau fy ngwaith gyda nhw - dwi bob amser yn cael adborth gwych! Y cyngor byddwn i’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried prentisiaeth yw cer amdani, gall arwain at brofiadau anhygoel.”

Er enghraifft, roedd Adrian a’r prentis Lucy – sy’n astudio tuag at gymhwyster NVQ Diploma Lefel 2 yng Nghanolfan Broadway Coleg Gŵyr Abertawe – wedi cael blas ar y bywyd ‘hollol wych’ yn Wythnos Ffasiwn Llundain diolch i’w gwaith yn yr Hair Lounge.

Yng nghwmni Cyfarwyddwr y Salon Marc Isaac, roedd y tîm wedi mynd i’r digwyddiad blynyddol lle roedden nhw wedi steilio gwallt modelau ar gyfer y sioeau brigdrawst. Fe’u gwahoddwyd i gymryd rhan yn Wythnos Ffasiwn Llundain ar ôl i un o steilwyr Daniel Galvin yn Selfridges weld eu gwaith ar-lein.

“Roedd Lucy yn wych, roedd hi wedi ein cynorthwyo ni a’r steilwyr o Daniel Galvin yn hyderus,” dywedodd Marc. “Roedd yn brofiad anhygoel ac un fydd yn edrych yn wych ar ei CV.”

“Roedd fy mhrofiad i yn Wythnos Ffasiwn Llundain yn agoriad llygad,” cytunodd Adrian. “Roedd yn gam gwych yn fy ngyrfa i wneud rhywbeth mor bwysig ag Wythnos Ffasiwn Llundain.”

Mae’r Hair Lounge wedi ennill nifer o wobrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Gwobr Salon Gorau 2015 gan Swansea Life Magazine. Yn 2016, enillodd y busnes statws swyddogol  ‘Salon 5*’ a’i farnu yn ‘Arbenigwyr Lliw’ gan y Good Salon Guide (yr unig salon yn ardal Castell-nedd / Abertawe i gael y teitl).

Mae gan Marc, sy’n cael ei gyflogi gan Goleg Gŵyr Abertawe fel tiwtor/aseswr trin gwallt, eiriau o anogaeth i unrhyw un sy’n ystyried cymryd y llwybr prentisiaeth.

"Mae’n cynnig yr hyfforddiant gorau i chi yn y maes neu’r sector rydych yn astudio ynddo,” dywedodd. “Nid yn unig hynny, ond mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i chi weithio gyda’r gorau yn y diwydiant a gall agor drysau i chi deithio’r byd.”

“Rydym wrth ein bodd i gael Marc yn gweithio gyda ni,” dywedodd Bernie Wilkes, Rheolwr Maes Dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. “Fel cyflogwr arweiniol yn Abertawe a pherchennog salon arobryn, mae’n ardderchog ei fod e’n gallu rhoi cyfle gwych i brentisiaid trin gwallt addawol ar ddechrau eu gyrfa.”

Tags: