Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA)

Fe wnaeth yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch [QAA] gynnal Adolygiad Gateway o ddarpariaeth AU y Coleg ym mis Mai 2021. Mae dolen i’r adroddiad a’r cynllun gweithredu ar gael isod. Nod cyffredinol Adolygiad Ansawdd Gateway yw rhoi barn arbenigol i CCAUC am sicrwydd ansawdd darpariaeth AU.

Nodau Adolygiad Ansawdd Gateway yw:

  • Sicrhau bod buddiant y myfyriwr yn cael ei ddiogelu
  • Darparu cyngor arbenigol i sicrhau bod enw da system addysg uwch y DU yn cael ei ddiogelu, gan gynnwys diogelu safonau academaidd
  • Nodi meysydd i’w datblygu a/neu welliannau penodedig a fydd yn helpu darparwr i fodloni’r gofynion rheoleiddiol sylfaenol.

Byddwn yn parhau i fonitro ein cynllun gweithredu. Os oes gennych unrhyw sylwadau cysylltwch â’r Rheolwr AU: Holly Donohoe (h.donohoe@gcs.ac.uk)

Adroddiad QAA

Cynllun Gweithredu QAA