exams

Canlyniadau gwych ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Rhyngwladol

Roedd dosbarth U2 eleni wedi ennill canlyniadau Safon Uwch anhygoel gyda chanran drawiadol o 64% yn ennill graddau A* neu A.

Mae dros 90% o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu derbyn gan brifysgolion Russell Group, gan gynnwys Rhydgrawnt.

Roedd gan ein myfyrwyr Safon UG achos i ddathlu hefyd, gyda 10 myfyriwr yn ennill naill ai pedair neu dair gradd A.

Hoffem ddweud da iawn i bob un o’r pedwar myfyriwr a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw yn eu hastudiaethau i ddod.

Category

International

Canlyniadau Safon Uwch/UG Coleg Gŵyr Abertawe 2018

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o 98%, gyda 1827 o geisiadau arholiad ar wahân.

O'r rhain, roedd 83% yn raddau uwch A*-C, roedd 58% yn raddau A*-B ac roedd 28% yn raddau A*-A – mae’r canrannau cryf hyn yn uwch na’r canlyniadau ardderchog a gafwyd yn 2017.

Roedd y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG yn 93%, gyda 69% ohonynt yn raddau
A-C a 48% yn raddau A-B - eto, mae'r canrannau cryf hyn yn uwch na chanlyniadau 2017.

Roedd 2853 o geisiadau arholiad ar wahân ar gyfer UG.

Category

A Level and GCSE

Diwrnod Canlyniadau Safon UG/UWCH – Dydd Iau 16 Awst 2018

Bydd canlyniadau Safon UG a Safon Uwch TGA ar gael i’w casglu o 9am ar ddydd Iau 16 Awst (D4 yng Ngorseinon)

Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw (bydd cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol neu, os nad yw’ch cerdyn myfyriwr gyda chi, bydd trwydded gyrru neu basport yn dderbyniol) pan fyddan nhw’n casglu eu canlyniadau o’r Coleg. 

Category

A Level and GCSE

Y camau nesaf: Cyngor Pennaeth Coleg i fyfyrwyr Abertawe ar y llwybr addysgol i’w gymryd ar ôl TGAU

Gyda myfyrwyr ar draws Abertawe ar fin cwblhau her fwyaf eu taith addysgol hyd yn hyn – arholiadau TGAU – nis oes amser gwell na nawr i feddwl am y dyfodol. I’r rhai ohonoch fydd wedi cwblhau eich arholiadau ym mis Mai a mis Mehefin, peidiwch â thynnu’ch troed oddi ar y sbardun! Efallai eich bod yn teimlo rhyddhad ar ôl cwblhau’r arholiadau ac nid oes unrhyw awydd gennych i feddwl am y camau nesaf yn eich bywydau academaidd, ond mae’r cyfnod cyn diwrnod y canlyniadau yn gyfle perffaith i ystyried beth i’w wneud nesaf.

Trefniadau ar gyfer casglu canlyniadau Safon Uwch a TGAU 2017

  • Bydd canlyniadau Safon Uwch ar gael i'w casglu o 8.30am ddydd Iau 17 Awst (D4 yng Ngorseinon)
  • Bydd canlyniadau TGAU ar gael i'w casglu o 9am ddydd Iau 24 Awst (B18a yn Nhycoch neu'r Swyddfa Arholiadau yng Ngorseinon)

Rhaid i fyfyrwyr ddod â ffotograff sy'n dangos pwy ydynt gyda nhw (mae cerdyn myfyrwyr yn ddelfrydol neu, os nad oes cerdyn myfyrwyr gennych, bydd trwydded yrru neu basport yn dderbyniol) pan fyddant yn casglu eu canlyniadau o'r coleg.

Category

A Level and GCSE
Subscribe to exams