Skip to main content

Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon

Amser-llawn, HE
Lefel 5
UoWTSD
Tycoch
two years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Gallai'r cwrs gael ei ailddilysu

Hyd: Dwy flynedd
Ffocws cyffredinol y cwrs hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad galwedigaethol wrth ddatblygu gwybodaeth helaeth o faterion a chysyniadau rheoli chwaraeon o fewn cyd-destun yr amgylchedd diwydiant hamdden ehangach.

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys:

  • Rheoli ffitrwydd a lles
  • Dulliau ymchwil a dysgu mewn cyfnod digidol
  • Rheoli digwyddiad chwaraeon
  • Sefydliadau chwaraeon ac arweinyddiaeth
  • Chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chymdeithas
  • Hyfforddi chwaraeon ac adolygiadau perfformiad

Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys:

  • Hyfforddi cymhwysol a diwylliannau perfformiad uchel
  • Cynllunio a darparu chwaraeon yn y gymuned
  • Rheoli’r amgylchedd chwaraeon proffesiynol ac elit
  • Seilwaith, dylunio a gweithredu chwaraeon
  • Y byd chwaraeon diwylliannol
  • Lleoliad gwaith ac adeiladu brand personol art gyfer cyflogaeth gynaliadwy

Click Here to Complete Our Higher Education Enquiry Form

Gwybodaeth allweddol

O leiaf 48 pwynt UCAS

 

Bydd myfyrwyr hefyd yn gweithio tuag at gymwysterau hyfforddi, cymhwyster Safon Uwch 2 Hyfforddwr Campfa a chymhwyster stiward diogelwch.

Bydd lleoliad gwaith ym Mlwyddyn 2 am 120 awr.

Mae’r cwrs yn rhoi’r sgiliau a’r galluoedd perthnasol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfa yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiannau chwaraeon, hamdden, digwyddiadau ac iechyd a ffitrwydd. Fel arall, gall myfyrwyr ymuno â blwyddyn olaf y rhaglen radd BA (Anrh) Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon. 

Sut i wneud cais
 
Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS S85Q)
 
Cliciwch yma i wneud cais
 

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS

Y ffioedd dysgu yw £9,000 y flwyddyn. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn.

Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:

  • teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio
  • tua £60 am becyn cit
  • £38 tuag at wiriad DBS sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs