HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig
Arolwg
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs yn bennaf ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y sector ac mae’n cynnig cyfle go iawn iddynt ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Diweddarwyd Medi 2022
Gwybodaeth allweddol
Dwy radd Safon Uwch (o leiaf radd C mewn mathemateg a phwnc gwyddoniaeth), BTEC Lefel 3 neu’r cyfwerth. Bydd rhaid i bob myfyriwr ddod am gyfweliad.
Addysgir y cwrs dros un diwrnod yr wythnos (ar hyn o bryd dydd Llun ar gyfer y flwyddyn gyntaf a dydd Mercher ar gyfer yr ail flwyddyn).
Modiwlau’r flwyddyn gyntaf:
- mathemateg
- egwyddorion trydanol ac electronig
- cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
Modiwlau’r ail flwyddyn:
- dylunio gosodiadau trydanol
- micros, perifferolion a rhyngwynebau
- dynameg, rheolaeth ac offeryniaeth
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i’r HND ac wedi hynny byddent yn cael cyfle i symud ymlaen i’r BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.