Skip to main content

Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 5 - Prentisiaeth Available in Welsh

Prentisiaeth
Lefel 5
Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad y brentisiaeth dwy flynedd hon yw rhoi’r sgiliau hanfodol, yr wybodaeth a’r strategethau angenrheidiol sydd eu hangen ar ddarpar arweinwyr a rheolwyr er mwyn rhagori yn eu rolau mewn amgylcheddau sy’n canolbwyntio ar blant.

Blwyddyn 1 – Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant  
Blwyddyn 2 – Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Amcanion

  • Ennill dealltwriaeth o hanfodion arweinyddiaeth  
  • Dysgu technegau rheoli effeithiol
  • Archwilio cyfnodau datblygu plant a dysgu seiliedig ar chwarae  
  • Deall y fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol  
  • Meistroli sgiliau cyfathrebu  
  • Archwilio strategaethau i greu ymarfer cynhwysol. 

Canlyniadau  

  • Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol i fynd i’r afael â heriau ac addasu i sefyllfaoedd sy’n datblygu
  • Darganfod dulliau o dyfu yn bersonol fel arweinydd a rheolwr mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Meddu ar gymhwyster cydnabyddedig sy’n agor drysau i rolau arweinyddiaeth mewn sefydliadau amrywiol sy’n canolbwyntio ar blant. 

Gwybodaeth allweddol

  • Rhaid i chi fod yn gyflogedig mewn rôl reoli mewn lleoliad gofal plant perthnasol am o leiaf 16 awr yr wythnos.  
  • Rhaid i ddysgwyr ddod i gyfweliad gyda’r tîm gofal plant a bydd cynigion cwrs yn amodol ar brawf sgrinio llythrennedd byr. 

Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd, wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch am un noson yr wythnos. Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr profiadol yn y maes sy’n gallu cefnogi eich proses dysgu ac asesu. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cynnig amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein sy’n gallu eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach yn eich amser eich hun.  

Asesir y cwrs trwy nifer o dasgau gwahanol yn y dosbarth gyda chymysgedd o dasgau wedi’u hasesu yn fewnol ac yn allanol. 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion sy’n arwain ac yn rheoli mewn amgylcheddau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant, gan gynnwys:  

  • Canolfannau Gofal Plant
  • Addysgwyr Plentyndod Cynnar  
  • Arbenigwyr Datblygu Plant  
  • Therapyddion Chwarae  
  • Swyddogion Gweinyddol Addysg.

  • Os nad oes gennych radd A-C ar lefel TGAU neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg Iaith bydd yn ofynnol i chi astudio cymwysterau sgiliau hanfodol ochr yn ochr â’ch prif fframwaith prentisiaeth.
  • Bydd gan ddysgwyr fynediad i gymorth wedi’i deilwra a chyfleusterau coleg yn ogystal ag amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein. Bydd aseswr dynodedig yn cynnal chwe adolygiad wythnosol gyda chi drwy’ch platfform e-bortffolio Aseswr Clyfar eich hun.