Skip to main content

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant – Craidd ac Ymarfer Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth
Lefel 3
CACHE
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Nod ein rhaglen prentisiaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ddarparu gofal cyfannol, meithrin dysgu seiliedig ar chwarae, a chefnogi datblygiad iach plant. P’un ai ydych yn awyddus i fod yn weithiwr proffesiynol gofal plant, addysgwr, neu riant, mae’r cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth werthfawr am greu amgylcheddau sy’n hyrwyddo lles a thwf plant.  

Amcanion

Bydd myfyrwyr yn deall:  

  • Datblygiad plant  
  • Dulliau cyfannol
  • Dysgu seiliedig ar chwarae  
  • Cwricwlwm Cymru.

Canlyniadau  

Mae’r llwybr hwn yn cyfuno cymhwyster craidd Lefel 2 â chymhwyster ymarfer Lefel 3, gan roi cyfle i ddysgwyr fod yn ymarferwyr cymwysedig Lefel 3 dros 18 mis. Mae’r cwrs prentisiaeth yn addas ar gyfer y rhai sy’n dilyn gyrfa mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant megis gofal dydd, Dechrau’n Deg neu ysgolion.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i brentisiaid sicrhau lleoliad ysgol a rhaid bod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos mewn ysgol addas gyda phlant o ysgol oedran gorfodol.  

Os nad oes gennych radd A-C ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith, bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol fel rhan o’ch fframwaith prentisiaeth.

Bydd yn ofynnol i chi fynd i gyfweliad ar Gampws Tycoch gyda’r tîm gofal plant, ac fel rhan o’r broses honno, byddwch yn cael prawf sgrinio llythrennedd. 

Mae dwy elfen i’r cwrs: CBAC Lefel 2 Craidd a Lefel 3 Ymarfer. Bydd hyn yn cael ei astudio dros 18 mis. Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch am un prynhawn yr wythnos. Cewch eich addysgu gan ddarlithydd profiadol a bydd gennych fynediad i amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein ar gyfer astudiaethau pellach yn eich amser eich hun.    

Er mwyn cyflawni’ch cymhwyster craidd, byddwn yn eich paratoi i basio un asesiad dewis lluosog.  

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster ymarfer, cewch eich cefnogi i gwblhau portffolio lleoliad, ac felly byddwch yn arsylwi ac yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer plant 0-7 oed.  

Yn yr holl asesiadau dyfernir gradd ‘pasio’ neu ‘fethu’.  

Os byddwch yn pasio’r cwrs hwn, gallech symud ymlaen i’r canlynol:

  • Addysg Bellach: Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu Gradd Sylfaen Ymarfer Datblygiad Plentyndod
  • Cyflogaeth mewn meithrinfa ddydd neu leoliad Dechrau’n Deg fel ymarferydd gofal plant dan oruchwyliaeth
  • Cyflogaeth fel cynorthwyydd addysgu.

Bydd yn ofynnol i chi gael gwiriad DBS am gost ychwanegol.  

Bydd myfyrwyr yn cael aseswr a fydd yn eich cefnogi drwy gydol y cwrs. Cewch fynediad i amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau cymorth yn y Coleg i gynorthwyo’ch profiad dysgu.